Angladd Corey Price fu farw mewn gwrthdrawiad ar A470

Corey Price Image copyright PA
Image caption Roedd Corey Price yn yr un car a'i ffrindiau Alesha O'Connor a Rhodri Miller

Mae cannoedd o bobl wedi mynychu angladd bachgen 17 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 laddodd dau o'i ffrindiau a dynes arall.

Bu farw Corey Price yn y gwrthdrawiad laddodd Rhodri Miller ac Alesha O'Connor, 17, a Margaret Elizabeth Challis, 66, ger Storey Arms ar 6 Mawrth.

Daeth cannoedd o bobl i wasanaethau er cof am Rhodri Miller ac Alesha O'Connor yr wythnos diwethaf, ac fe gafodd angladd Margaret Challis ei gynnal ddydd Mawrth.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair yn Y Barri ddydd Mercher.

Roedd gan arch Corey grys pel-droed glas arno i nodi'r amser dreuliodd yn chwarae i academi Caerdydd.

Image caption Roedd gan arch Corey grys pel-droed glas arno
Image caption Roedd ffrindiau Corey wedi sefyll ar hyd y stryd wrth i'w arch gyrraedd yr eglwys

Straeon perthnasol