Henry yn rhoi sioc i ddisgyblion Merthyr Tudful

Thierry Henry Image copyright Sky Sports

Mae'r cyn-bêl-droediwr rhyngwladol, Thierry Henry, wedi rhoi dipyn o sioc i ddisgyblion ysgol yn ne Cymru mewn ymweliad annisgwyl i ddosbarth wedi gwisgo fel athro.

Roedd Henry, enillodd Gwpan y Byd gyda Ffrainc, yn gwisgo sbectol a wig fel nad oedd neb yn ei adnabod, cyn eu tynnu o flaen y disgyblion yn Ysgol Uwchradd Pen-y-Dre ym Merthyr Tudful.

Roedd yr ymosodwr yn cyflwyno tlws disgybl y flwyddyn yng ngwobrau Living for Sport Sky Sports i ddisgybl yn yr ysgol, Emma Morgan.

Dywedodd y pennaeth, Keith Maher, ei fod yn "brofiad cyffrous iawn" i'r disgyblion, oedd heb unrhyw syniad bod Henry ar ei ffordd i'r ysgol.