'Angen denu lleiafrifoedd ethnig i wleidyddiaeth'

Ray Singh
Image caption Mae Ray Singh am weld newid i gefnogi ymgeiswyr sy'n dod o leiafrifoedd ethnig

Mae sefydliad sy'n cynrychioli lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru'n dweud bod angen i bleidiau gwleidyddol wneud mwy i geisio cael rhagor o bobl ddu ac Asiaidd wedi eu hethol.

Mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru wedi darganfod mai 10 ymgeisydd seneddol o dras ethnig fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol dros y bedair plaid sydd ag aelodau seneddol yng Nghymru'n barod.

Ond does r'un ohonyn nhw'n sefyll mewn etholaeth ble daeth y blaid maen nhw'n ei chynrhychioli'n gyntaf neu'n ail yn yr etholiad diwethaf.

Dydy Cymru erioed wedi ethol aelod seneddol o gefndir lleiafrifol ethnig.

  • Does gan Lafur ddim ymgeiswyr seneddol o dras ethnig yn sefyll yng Nghymru.
  • Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol bump, y Ceidwadwyr dri a Phlaid Cymru ddau.
  • Wnaeth UKIP ddim darparu unrhyw wybodaeth.

'Problem fawr'

Dywedodd Ray Singh, cadeirydd Cyngor Hil Cymru bod y sefyllfa'n "broblem fawr".

"Dwi'n meddwl bod hi'n bryd i'r pleidiau gwleidyddol edrych ar hyn o ddifrif."

"Os nad ydyn ni'n gweithio tuag at gael aelod seneddol o dras ethnig yngn Nghymru, byddwn ni ar ei hôl hi," meddai.

Dywedodd Mr Singh y dyla'r pleidiau ddewis ymgeiswyr o dras ethnig ar gyfer eu hetholaethau mwyaf diogel os ydyn nhw'n ddigon da i sefyll.

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf mae 4.4% o boblogaeth Cymru o gefndir lleiafrifol ethnig.

'Gweithio'n galetach'

Image caption Mae Vaughan Gething yn dweud bod angen gwneud i "annog a chefnogi" pobl ym myd gwleidyddiaeth

Ar hyn o bryd mae gan y Cynulliad ddau aelod o dras ethnig: Vaughan Gething AC a Mohammad Asghar AC.

Dywedodd Mr Gething, Aelod Cynulliad Llafur De Caerdydd a Phenarth a dirprwy weinidiog iechyd Llywodraeth Cymru:

"Mae'n rhaid i ni wethio'n galetach i annog ac yna i gefnogi pobl i fod yn ymgeiswyr yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae gennym dri ymgeisydd o gefndir lleiafrifol ethnig yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol - mae hynny o gymnharu a dim un yn yr etholaid cyffredinol diwethaf".

Dywedodd Dafydd Trystan, cadeirydd Plaid Cymru: "Rydym yn gwneud cynnydd ond mae cwestiynau ehangach i'w hateb."

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar gydraddoldeb, Peter Black AC: "Rwyf yn falch bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fwy o ymgeiswyr o gefndir lleiafrifol ethnig na phrif bleidiau eraill Cymru.

"Wrth gwrs fel plaid rydyn ni'n sywleddoli bod llawer mwy gallwn ei wneud."

Dywedodd llefarydd bod UKIP "yn credu mewn cydraddoldeb" a bod y blaid yn rhoi cyfleoedd i bobl "yn ôl haeddiant yn unig".