£5.5m o gyffuriau: carcharu tri dyn

Vincent David Lowrie, Darren James Cohen a Darren Lewis Image copyright Heddlu gwent
Image caption Cafodd Vincent David Lowrie, Darren James Cohen a Darren Lewis eu carcharu yn Llys y Goron Caerdydd

Mae tri dyn gafodd eu dal gyda chyffuriau gwerth £5.5m wedi eu carcharu.

Daeth yr Heddlu o hyd i 60kg o ganabis, 1kg o MDMA, 61kg o amffetamin a 134kg o resin canabis yn Nhorfaen.

Fe wnaeth Vincent David Lowrie o Drefynwy a Darren Lewis o Bentwyn, Caerdydd, gyfaddef troseddau cyffuriau tra bod Darren James Cohen o Bentwyn, wedi ei gael yn euog.

Cafod Lowrie ei garcharu am naw mlynedd yn Llys y Goron Caerdydd, tra bod Cohen a Lewis wedi eu dedfrydu i ddwy flynedd a chwe mis yr un.

Daeth yr heddlu o hyd i'r cyffuriau ar ôl stopio fan ym Mhontypwl yn 2013. Fe wnaeth hynny arwain yr heddlu i storfa yng Nghwmbrân lle daethon nhw o hyd i'r cyffuriau.

Plediodd Lowrie yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B, plediodd Lewis yn euog i fod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi a cafwyd Cohen yn euog o fod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi.