170 o swyddi yswiriant newydd i Abertawe

Bydd cwmni yswiriant ceir yn creu bron i 170 o swyddi newydd yn Abertawe wrth iddyn nhw ehangu yn y ddinas.

Cyhoeddodd ERS dydd Mercher y byddan nhw'n cynyddu'r nifer o weithwyr yno o 230 i 398.

Fel rhan o'r aildrefnu, fe fydd eu canolfan yn Abertawe yn cynyddu tra bydd un o'u swyddfeydd yn Lloegr yn cau.

Mae'r cwmni - sydd wedi ei leoli yn Nhŷ Caerfyrddin, Llansamlet, ar hyn o bryd - nawr yn gobeithio symud i safle mwy.