Cymru: 'Un o'r llefydd gwaethaf i bobl ifanc'

Pobl ifanc Image copyright Getty Images

Mae Cymru yn "un o'r llefydd gwaetha' yn y Deyrnas Unedig i bobl ifanc fyw", yn ôl melin drafod neu 'think tank' annibynnol.

Ddyddiau'n unig cyn i'r ymgyrchu swyddogol ddechrau ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015 mae'r Intergenerational Foundation (IF), sy'n ymchwilio i degwch rhwng cenedlaethau, yn galw ar wleidyddion i gynnig mwy o bolisïau i gefnogi pobl ifanc.

Yn ôl yr elusen, mae'r gwrthgyferbyniad rhwng sut mae'r to iau a'r to hŷn yn ymdopi yn "amlwg iawn" yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd hi'n addas iddyn nhw wneud sylw ar ymchwil yr IF, tra bod Llywodraeth Cymru'n mynnu eu bod yn gweithredu i gefnogi pobl ifanc.

'Pobl ifanc Cymru ar eu colled'

"Mae pobl ifanc Cymru ar eu colled - yn rhannol oherwydd lefelau uwch o ddiweithdra ymysg yr ifanc, ond hefyd gan fod gan y wlad lawer o gymunedau gwledig - mae gymaint â hynny'n anoddach i gyrraedd y gwaith," medd Angus Hanton o'r elusen.

Fel cyfran o bobl 18 i 24 oed, dyw 19.7% o bobl ifanc Cymru ddim yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant (NEETs) o'i gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer y DU o 17.3%, yn ôl ymchwil IF.

Mae 'na bwysau demograffig hefyd, gyda nifer y bobl dros 65 mlwydd oed yng Nghymru yn cynrychioli 39.5% o'r gweithlu, o'i gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer y DU o 33.5%.

"Effaith hyn yw bod y gymdeithas yn canolbwyntio fwyfwy ar anghenion yr henoed ac yn talu llai o sylw i anghenion real, difrifol y to iau," yn ôl Angus Hanton.

'Tlodi'n fwy tebygol ymysg yr ifanc'

Tra bod pris y tŷ cyfartalog yng Nghymru oddeutu £60,000 yn rhatach nag mewn mannau eraill o'r DU, mae'r elusen yn dweud bod prynu tŷ dal i fod allan o gyrraedd y rhan helaeth o bobl ifanc gan fod "nifer yn ennill yr isafswm cyflog".

Mae'r felin drafod yn honni bod eu hymchwil hefyd yn awgrymu bod y bwlch mewn cyfleoedd i bobl ifanc a phobl hŷn hefyd yn amlwg iawn yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr ac yn Swydd Efrog.

"Yn y bôn, yr hyn sy'n rhaid i lywodraethau wneud yw dweud y gwnawn ni roi mwy o fuddion a chymorth i bobl ifanc a gwnawn ni dalu am hynny drwy dynnu'r buddion rheiny oddi ar bobl hŷn, gyfoethocach sy' ddim eu hangen nhw," medd Angus Hanton wrth BBC Cymru.

"Mae ymchwil diweddar yn dangos os ydych chi'n edrych am dlodi yna ry'ch chi fwya' tebygol o'i ddarganfod ymysg yr ifanc yn hytrach na'r henoed."

Image caption Mae'r elusen yn dweud bod prynu tŷ dal i fod allan o gyrraedd y rhan helaeth o bobl ifanc

Atebion anghenion Cymru

Mae'r ffordd y mae'r pleidiau'n targedu cenhedlaethau gwahanol wedi bod yn destun tipyn o drafod wrth edrych tua'r etholiad ym mis Mai.

Yn yr etholiad cyffredinol diwetha' yn 2010, dim ond 55% o bobl 25-34 mlwydd oed a 44% o bobl 18-24 mlwydd oed wnaeth fwrw pleidlais. Ond fe fyddai cynnydd o 10% ymysg pobl ifanc y tro hwn yn medru disodli 83 Aelod Seneddol, yn ôl gwaith ymchwil yr IF.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU nad oedd hi'n addas iddyn nhw wneud sylw ar ymchwil yr IF.

Fe bwysleisiodd Llywodraeth Cymru bod:

  • Lefel dyled myfyrwyr o Gymru yn sylweddol is na myfyrwyr yn Lloegr;
  • Lefel diweithdra ymysg yr ifanc yng Nghymru yn gostwng yn gyflymach na mewn rhannau eraill o'r DU;
  • 17,139 o swyddi i bobl ifanc wedi'u creu ers i'w prosiect Tyfu Swyddi Cymru ddechrau yn 2012.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Ry'n ni'n wedi ymrwymo i barhau i weithredu i gefnogi ein pobl ifanc drwy'u haddysg at y gweithlu. Ry'n ni wedi diogelu cyllid ysgolion, ac ar gyfer myfyrwyr mewn prifysgolion ry'n ni'n darparu'r grant mwyaf hael o holl wledydd y DU.

"Mae ein prosiect cyflogaeth arloesol, Tyfu Swyddi Cymru, wedi rhoi cyfleoedd i filoedd o bobl ifanc ddod o hyd i waith o safon uchel.

"Ry'n ni hefyd yn edrych tuag at anghenion hir dymor ein gwlad. Yr wythnos ddiwetha' fe basiwyd y ddeddf Llesiant Cenhedlaethau'r Dyfodol.

"Fe fydd hyn yn trawsnewid sut y mae cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru, gan sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hateb tra'n gadael gwell gwaddol i genedlaethau'r dyfodol."