Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad

Heddlu

Mae gyrrwr beic modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda char ar yr A4054 yn Nhrefforest ddydd Mercher.

Roedd y beic modur Honda yn gyrru ar hyd y ffordd ym mharc diwydiannol Trefforest pan fu mewn gwrthdrawiad gyda char Volkswagen Golf du am 17:10.

Cafodd gyrrwr y beic modur anafiadau difrifol a bu farw. Mae'r swyddogion yr heddlu yn cefnogi'r teulu.

Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw, yn ogystal ag unrhyw un a welodd y car Volkswagen neu'r beic modur Honda yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad.