Pryder am ddyfodol pier Aberystwyth

Pier Brenhinol Aberystwyth Image copyright Google
Image caption Fe agorwyd Pier Brenhinol Aberystwyth 150 o flynyddoedd yn ôl

Gallai dyfodol y pier cyntaf i agor yng Nghymru fod dan fygythiad, yn ôl cwmni rheoli.

Mae Don Leisure Ltd wedi dweud bod gweinyddwyr wedi cael eu galw i reoli asedau Pier Brenhinol Aberystwyth.

Dywedodd y rheolwr-gyfarwyddwr Andrew Deakin y gallai'r busnes a gollwyd oherwydd stormydd y llynedd fod ar fai.

"Mae nifer o opsiynau yn cael eu hystyried, o'i ailadeiladu i'w werthu," meddai.

Dywedodd Mr Deakin bod y pier wedi osgoi'r gwaethaf o storm y llynedd, ond cafodd y busnes ei effeithio wrth i nifer o fyfyrwyr ddychwelyd adref o'r dref.