Carchar am oes i lysfab am ladd y bardd Anne Jackson

Timothy Jackson Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Timothy Jackson wedi cael ei orchymyn i dreulio o leiaf 19 blynedd dan glo

Mae llysfab bardd o Sir Fynwy wedi cael ei garcharu am oes am ei llofruddio.

Fe gafodd Anne Jackson, 79 oed, a oedd yn ysgrifennu dan yr enw Anne Cluysenaar, ei darganfod wedi ei thrywanu yn ei brest a'i gwddf ar 1 Tachwedd 2014 yn ei thŷ ger Brynbuga.

Mae ei llysfab Timothy Jackson, 49 oed, o Sheffield, wedi cael ei orchymyn i dreulio o leiaf 19 blynedd dan glo.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd bod Jackson wedi llad ei lysfam gyda chyllell mewn ffrae deuluol.

Dywedodd yr erlyniad bod Jackson wedi gafael yn y gyllell yn ystod dadl gyda'i lysfam.

Yn y dyddiau cyn y llofruddiaeth roedd Jackson wedi bod yn gweiddi ar ei lysfam, a'i fod yn gymeriad blin.

Disgrifiodd dad Jackson ei fab fel cymeriad od a bwli.

Image copyright Heddlu Gwent
Image caption Roedd gwaith Anne Jackson wedi ei gyhoeddi mewn cylchgronau llenyddol