Diwedd cyfnod a dechrau newydd

Peter Hain ac Elfyn Llwyd
Image caption Rhoddodd Peter Hain gynnig ar y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 2009, tra'n eistedd wrth ymyl Elfyn Llwyd, yr AS lleol.

Mae'n ddiwedd cyfnod yn San Steffan, wrth i'r Senedd ddechreuodd yn 2010 gael ei diddymu, ond mae'n hyd yn oed mwy o garreg filltir i ambell aelod.

Does yr un o'r gwleidyddion yn gwybod pwy fydd yn ôl wedi 8 Mai, ond mae wyth o'r 40 aelod Cymreig yn gwybod i sicrwydd na fyddan nhw'n dychwelyd - o leia' fel ASau - gan eu bod nhw'n rhoi'r gorau iddi yn yr etholiad cyffredinol yma.

Ar ôl ennill ei sedd am y tro cynta' yn 1992, mae AS Dwyfor Meirionnydd Elfyn Llwyd yn ildio'r awenau.

Mae'r bargyfreithiwr wedi sicrhau enw da iddo'i hun yn San Steffan am ei waith ar faterion cyfiawnder troseddol - ei waith ar stelcian arweiniodd y ffordd at greu deddf newydd.

Image caption Bu David Cameron yn rhoi teyrnged i Elfyn Llwyd yn sesiwn holi ola'r Prif Weinidog ddydd Mercher

Gofynnodd Cymru Fyw i Elfyn Llwyd am ei deimladau wrth baratoi i glirio ei ddesg seneddol:

"Mae gen i deimladau cymysg ar ôl bron i chwarter canrif," meddai. "Mae wedi bod yn amser diddorol, nid yn unig i mi'n bersonol ond o ran gwleidyddiaeth Cymru.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Elliw Gwawr

"Yn 1992 doedd 'na ddim llawer ohonan ni'n siarad am ddatganoli, ond erbyn rŵan mae datganoli'n ganolog i bob dim 'da ni'n 'neud. Mae gan bob mesur yn San Steffan ardystiad ar y cefn yn nodi ydi o'n ymwneud â Chymru, Lloegr, yr Alban ac yn y blaen. Mae'r ddadl am ddatganoli ar bob mesur sy'n dod o flaen y tŷ, ac mae 'na deimlad reit gry' y dylid cael senedd i Loegr rŵan, felly mae 'na gyfnod diddorol i ddod."

Beth am rai o'r prif atgofion?

"Fi oedd y cynta' i alw am gomisiynydd plant yn 1993 - mi ddaeth 'na un i Gymru, ac wedyn i rannau eraill o Brydain. Newid y ddeddf yn ymwneud â chyfraith teulu yn 1997 wedyn, i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed yn y broses ysgariad. Trwy hynny, mi ddaeth 'na gymal i mewn o'r siarter Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant trwy'r mesur hwnnw. Doedd Prydain ddim wedi cymeradwyo'r siarter ar y pryd.

"Ceisio uwchfarnu Blair ar ei gamfarnu ar Irac hefyd, ac mi fues i'n dadlau dros hawliau unigolion oedd wedi bod yn y fyddin ac yn anffodus wedi mynd yn sownd yn y system droseddol. Roedd y mater ym maniffesto bob un o'r pleidiau yn yr etholiad diwetha' wedyn.

"Mi ddaeth y gyfraith stelcian i mewn ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs. A deufis yn ôl, y gyfraith yn ymwneud â gorthrymu partner o fewn trais yn y cartre'.

"Mi gefais i hefyd y fraint o fod ar Bwyllgor Cyfiawnder Prydain mewn cynhadledd yn Athen y llynedd, ble roedd pwyllgorau cyfiawnder pob gwlad yn Ewrop yn cwrdd."

A beth yw ei gynlluniau i'r dyfodol?

"Mynd 'nôl i fyd y gyfraith - mae cwpl o brifysgolion wedi gofyn i mi ddarlithio, gwneud 'chydig o waith iddyn nhw. Mae'r syniad o ymddeol fel ymddeol yn troi arna' i dweud gwir - dwi'n meddwl bod gen i ryw chwech i wyth mlynedd o waith yn dal yna i.

"Dwi hefyd eisiau gweld mwy ar y teulu - mae gen i dair wyres fendigedig erbyn hyn.

"A dwi'n edrych mlaen i roi dipyn o sylw i 'ngholomennod, wrth gwrs, gan bod gen i ddiddordeb mawr yn hynny. Ac mi fydda' i'n cael cyfle i wneud dipyn o bysgota yn afonydd Llŷn a Meirionnydd."

Dydd Mercher fe wnaeth David Cameron dalu teyrnged i Mr Llwyd yn ystod sesiwn holi ola'r prif weinidog yn y senedd bresennol.

Meddai Mr Cameron: "Rwy'n cofio rhai areithiau angerddol iawn, yn enwedig ar y rhyfel yn Irac. Rwy'n cofio ambell araith angerddol ar ryddid dinesig yn ein gwlad a sicrhau ein bod yn ymateb yn y modd cywir i derfysgaeth.

"Mae o wastad wedi sefyll dros ei etholwyr, mae'n teimlo'n angerddol am Gymru, ac am rygbi, a bydd pawb yn gweld ei golli."

Image caption Mae Ed Miliband eisoes wedi cynnig swydd i Peter Hain ond dydi o ddim yn datgelu mwy am y tro

'Aros ym myd gwleidyddiaeth'

Un arall fydd yn gadael yn yr etholiad yma, wedi 24 mlynedd yn San Steffan yw AS Castell-nedd Peter Hain.

Bu'n aelod Cabinet dan lywodraethau Tony Blair a Gordon Brown.

Dywedodd ei fod yn "deimlad od" gadael ac y bydd yn colli ei waith etholaeth.

"Mae 'na rai ASau sy'n gadael sy'n methu aros i fynd," meddai.

"Mae 'na eraill sydd wedi dechrau mynd yn reit bryderus.

"Dwi wedi gwneud fy mhenderfyniad ac rwy'n gwybod beth fydda' i'n gwneud ac rwy'n mynd i aros ym myd gwleidyddiaeth ac ymladd dros Lafur ac rwy'n gweld y cyfan fel cam gwahanol yn y broses honno."

Mae'n dweud y bydd ei rôl wleidyddol nesa' - gynigwyd gan Ed Miliband - "yn dod yn amlwg", ond ychydig iawn o gliwiau sydd 'na ar hyn o bryd.

Beth oedd ei uchafbwyntiau fel AS?

"Y cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon, dod â rhagor o bwerau i Gymru yn neddf 2006 a helpu i ennill y refferendwm yn 1997, dyna rai o'r pethau dwi fwya' balch ohonyn nhw," meddai.

Ymhlith yr ASau Cymreig eraill fydd yn rhoi'r gorau iddi mae cyn Ysgrifennydd Cymru a Gogledd Iwerddon Paul Murphy, fu'n AS Llafur dros Dorfaen ers 1987, a'r AS Ceidwadol Jonathan Evans, gweinidog yn llywodraeth John Major yn yr 1990au.

Mae Siân James, Martin Caton, Dai Havard a Hywel Francis hefyd yn ymddeol.