Dyfodol Cymru 'yn ein dwylo ein hun', yn ôl Leanne Wood

Leanne Wood
Image caption Bydd Leanne Wood yn siarad mewn rali yn Ffos Las ddydd Gwener

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod dyfodol Cymru "yn ein dwylo ein hun".

Wrth lansio ymgyrch y blaid, dywedodd Ms Wood y byddai ethol y nifer fwyaf erioed o Aelodau Seneddol Plaid yn rhoi Cymru yn y "sefyllfa gryfaf bosib", gan fod y polau piniwn yn awgrymu y gallwn weld senedd grog ym mis Mai.

Roedd yr arweinydd yn annerch cefnogwyr mewn rali yng nghae rasio Ffos Las yn Nhrimsaran, Llanelli, ddydd Gwener.

Yn ôl yr arweinydd, ethol mwy o ASau Plaid Cymru yw'r ffordd orau i sicrhau na fyddai Cymru'n cael ei "esgeuluso a'i gwthio i'r cyrion".

'Mewn safle pwerus'

Mae gan Plaid dri AS ar hyn o bryd, ac mae'n gobeithio bod mewn safle pwerus mewn senedd grog. Mae'r blaid wedi datgan eu bwriad i drafod telerau fel rhan o floc gyda'r SNP a'r Gwyrddion.

Mae'r blaid wedi dweud y byddai'n gweithio gyda llywodraeth Lafur lleiafrifol, ond dim gyda'r Ceidwadwyr.

Dywedodd Ms Wood: "Rwy'n galw ar bobl yng Nghymru i gymryd y cyfle yn yr etholiad hwn i sicrhau bod Cymru'n cael ei ystyried ar ôl yr etholiad nesaf. Gyda thîm cryf o ASau Plaid Cymru, gallwn ni sicrhau na fydd Cymru yn cael ei esgeuluso a'i wthio i'r cyrion.

"Gadewch i ni beidio rhoi ein dyfodol yn nwylo pleidiau San Steffan. Yn hytrach, rhowch y pŵer i Plaid Cymru fel y gallwn ni ail-gydbwyso pŵer a chyfoeth ledled y DU."