O ddrws i ddrws: Pryd ar glud yn Ynys Môn

Andrew Jones
Image caption Andrew Jones, perchennog cwmni pryd ar glud Cegin Gors Pentre Berw, Ynys Môn

Am 11.30 ar fore Gwener, does yr un cwsmer yn Nhafarn y Gors ym Mhentre Berw ar Ynys Môn, ond mae'r gegin yn paratoi 100 o brydau a phwdinau ac mi fydd pob un yn mynd trwy'r drws yn y man.

Cegin Gors ydi'r elfen o'r busnes sy'n darparu gwasanaethau pryd a'r glud i rai o drigolion yr Ynys. Andrew Jones ydi'r perchennog: "Ddaru ni ddechrau ryw ddwy flynedd yn ôl pan ddaru gwasanaethau cymdeithasol rhoi pryd ar glud i fyny yn Ynys Môn, ers hynny mae o wedi mynd yn hollol breifat a ni 'di'r cwmni mwya sy'n neud o ar Ynys Môn - dwi meddwl na'r unig un sy'n offishial yn 'i neud o."

Ond mae'r gwasanaeth yn llawer iawn mwy na un sy'n mynd a bwyd i gartrefi'n unig.

Yn aml iawn, gweithwyr Cegin Gors ydi'r unig gyswllt â'r byd tu allan, yr unig sgwrs sydd i'w chael yn y dydd.

'Gwasanaethau hollbwysig'

Bwlch yn y galw arweiniodd at sefydlu Cegin Gors ac mae'r ffigyrau mae Newyddion Radio Cymru wedi eu casglu gan 19 o'r 22 cyngor yma yn dangos fod 32% yn llai o bobl yn derbyn pryd ar glud gan gynghorau o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Mae'r ystadegyn yna'n peri pryder i Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru - yn ôl Iwan Williams o'r swyddfa: "Mae gwasanaethau pryd ar glud yn hollbwysig i iechyd a lles pobl hŷn ar draws Cymru, nid yn unig am resymau corfforol ond hefyd yn feddyliol.

"O ran y prydau eu hunain, mae'n bwysig fod pobl hŷn yn cael o leia un pryd cynnes maethlon y dydd, mae hynny'n hollbwysig i'w hiechyd corfforol nhw.

"Ond hefyd y berthynas maen nhw'n datblygu gyda'r darparwyr pryd ar glud - mae'n hollbwysig o ran iechyd meddyliol, ac yn ffordd i fynd i'r afael ag unigrwydd hefyd."

Croeso cynnes

Erbyn 12:15, mae un o gerbydau Cegin Gors wedi cyrraedd tŷ Arnold Gibson yn Llangefni. Mae'r croeso i Lorraine y gyrrwr a'r pryd poeth yn ei llaw yr un mor gynnes.

"Mae'r genod i gyd mor ffeind" meddai, "mae hon yn ofnadwy o ffeind".

"Mi oeddwn i'n medru gneud bwyd, ond dwi wedi mynd yn simsan ar fy nhraed, felly mae'n brafiach fel hyn dydi."

Yr un ydi'r croeso ym mhentref cyfagos Talwrn gan gwsmer arall, Mrs Williams.

"Mae'n bwysig, bwysig dros ben (y gwasanaeth).

"Mae'n fy nghadw fi am ddiwrnod a ddim isho poeni am fwyd 'te.

"Sw ni'n 'i chael hi'n anodd iawn gneud pryd o fwyd fy hun bob diwrnod.

"Sdim isho i fi boeni, maen nhw'n dwad. Dwi'n gwbod bod nhw'n dwad tua'r amser yma bob dydd 'te."

Dydi'r darlun ar draws Cymru ddim yn glir - mae rhai cynghorau yn cynnig rhyw fath o wasanaeth mewn rhai ardaloedd, eraill ddim yn darparu dim wrth i'r esgid ariannol wasgu.

Ond wrth i'r boblogaeth hŷn gynyddu yng Nghymru, a'r arian sydd ar gael grebachu, pwy dybed fydd yno i ateb y galw am wasanaeth sydd ei angen yn ddirfawr?