Annog Cymry i gefnogi Lloegr

Cefnogwyr Casnewydd Image copyright Getty Images

Mae FL Interactive - adran ddigidol y Gynghrair Bêl-Droed - wedi ymddiheuro wedi i e-bost gael ei anfon at gefnogwyr Caerdydd a Chasnewydd yn eu hannog i gefnogi Lloegr.

Roedd yr e-bost, ar ran Cymdeithas FA Lloegr, yn annog cefnogwyr i ymuno â chynllun fyddai'n cynnig blaenoriaeth ar gyfer prynu tocynnau i gemau yn Stadiwm Wembley.

Cafodd y neges ei hanfon at gefnogwyr oedd wedi dewis derbyn e-byst marchnata.

Mi wnaeth FL Interactive ymddiheuro, gan ddweud: "Yn amlwg bydd mwyafrif helaeth o gefnogwyr y ddau glwb hefyd yn cefnogi Cymru."