Wrecsam yn colli yn y ffeinal

fa trophy Image copyright Getty Images

Wrecsam 3-3 North Ferriby United - 4-5 ar giciau o'r smotyn.

Mae Wrecsam wedi colli rownd derfynol Tlws FA Lloegr yn Wembley ar giciau or smotyn yn erbyn North Ferriby United.

Roedd pethau'n edrych yn addawol dros ben i Wrecsam ar un cyfnod.

Roedd goliau Louis Moult yn yr hanner cyntaf a Jay Harris wedi 55 munud wedi eu gadael ddwy ar y blaen gyda llai na chwarter awr yn weddill.

Ond yna fe ildiodd y golwr Andy Coughlin gic o'r smotyn i roi gobaith i'r tîm sy'n chwarae un adran islaw Wrecsam.

Sgoriodd Liam King o'r smotyn gyda Ryan Kendall yn unioni'r sgôr cyn diwedd y 90 munud.

Yna yn yr amser ychwanegol fe gafodd Kendall ei ail i roi North Ferriby ar y blaen am y tro cyntaf, ond pan sgoriodd Louis Moult eto ddau funud cyn y diwedd roedd Wrecsam yn dal yn y gêm.

Roedd angen ciciau i'r smotyn i setlo'r gêm felly - ar ôl pum cic yr un roedd hi'n 3-3 a'r cyntaf i fethu fyddai'n colli.

Y cyntaf i wneud hynny oedd yr amddiffynwr Steve Tomassen, a North Ferriby sy'n mynd â'r tlws adre.