Gwahardd ceir rasio wedi damwain

Gwrthdrawiad Nurburgring Image copyright AFP
Image caption Car Jann Mardenborough ar ôl y ddamwain ar y Nürburgring

Bydd ceir rasio GT3 yn cael eu gwahardd dros dro rhag defnyddio'r trac rasio yn Yr Almaen ble wnaeth gyrrwr o Gymru gael damwain, gan ladd un person.

Mae awdurdodau moduro'r Almaen wedi penderfynu gwahardd y math o gar oedd yn cael ei yrru gan Jann Mardenborough pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar drac rasio'r Nurburgring Nordschleife dros y penwythnos.

Mae Jann Mardenborough, 23 oed o Gaerdydd, a dau oedd yn gwylio'r ras, wedi eu rhyddhau o'r ysbyty.

Cafodd un person eu lladd pan aeth y car oddi ar y ffordd, cyn mynd dros y ffens ddiogelwch.

Mae'r heddlu wedi cymryd car Nissan GT Jann Mardenborough fel rhan o'u hymchwiliad, ac mae'r gymdeithas chwaraeon modur Almaeneg DMSB wedi dweud y byddan nhw'n gwahardd nifer o fathau o geir o'u digwyddiadau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol DMSB, Christian Schacht: "Ni allwn ni, a ni fyddwn ni, yn mynd yn ôl i fusnes fel arfer, yn dilyn damwain o'r fath."

Dywedodd y byddai'r cerbydau yn cael dychwelyd i'r trac rasio wedi i unrhyw newidiadau angenrheidiol gael eu cyflwyno.

Straeon perthnasol