Canllaw byr i ddatganoli yng Nghymru

Y Senedd, Bae Caerdydd
Image caption Mae nifer o feysydd yn cael eu rheoli o Fae Caerdydd yn dilyn datganoli

Etholiad 2017: Canllaw byr i ddatganoli yng Nghymru.

Bydd yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin yn penderfynu pwy fydd yn rheoli yn San Steffan, ond mae gallu Llywodraeth y DU i basio deddfau ar draws y DU wedi'i gyfyngu.

Mae nifer o swyddogaethau wedi eu rhoi i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd gyda chyrff etholedig eu hunain. Ond nid oes gan bob un o'r cyrff yr un lefel o awdurdod.

Sut y digwyddodd hyn?

Mae gwahaniaethau pwysig wedi bod yn y ffordd mae gwahanol rannau o'r DU yn gweithio ers peth amser - er enghraifft, y systemau cyfreithiol ac addysgiadol gwahanol yn Yr Alban. Ond yn 1997, gwelwyd cyfnod newydd o ddatganoli - trosglwyddo rhai pwerau canolog i'r rhanbarthau.

Yn y flwyddyn honno, cafwyd refferendwm yng Nghymru a'r Alban, gydag Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn cynnal refferendwm yn 1998.

Yn dilyn hyn cafodd Senedd Yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon eu creu.

Cafwyd newid sylweddol arall wrth i'r Alban gynnal refferendwm ynglŷn â'i hannibyniaeth yn 2014. Er i bleidleiswyr wrthod annibyniaeth lawn, gwelwyd trafodaeth ddwys ynglŷn â pha benderfyniadau y dylai'r Alban allu cymryd dros ei hun.

Mae'r drafodaeth eisoes wedi arwain at gynnig mwy o bwerau i Senedd yr Alban - ac mae hi'n debygol y bydd yn effeithio ar sut mae'r broses ddatganoli yn parhau, nid yn Yr Alban yn unig, ond ar draws y DU.

Pa bwerau sydd wedi eu datganoli i Gymru?

  • Amaethyddiaeth, coedwigoedd a physgota
  • Addysg
  • Amgylchedd
  • Iechyd a lles cymdeithasol
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Gwasanaethau tân ac achub
  • Datblygu economaidd
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Rheolaeth dros y dreth stamp a threth tirlenwi
  • Yr iaith Gymraeg

Pa bwerau sydd heb eu datganoli i Gymru?

Mae Llywodraeth y DU, wedi'i arwain gan y prif weinidog yn Downing Street, yn gyfrifol am bolisi cenedlaethol ar bob mater sydd heb ei ddatganoli - sy'n cael eu hadnabod fel "pwerau wedi eu cadw".

Y prif bwerau sydd wedi eu cadw yn San Steffan yw:

  • Y cyfansoddiad
  • Amddiffyn a diogelwch cenedlaethol
  • Polisi tramor
  • Mewnfudo a dinasyddiaeth
  • Ynni
  • Nawdd cymdeithasol (wedi'i ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon)
  • Pensiynau
  • Y mwyafrif o drethi (ond nid yn Yr Alban)

Beth sy'n digwydd yng Nghymru?

Image copyright PA
Image caption Mae gan y Cynulliad bwerau deddfu cynradd dros faterion wedi eu datganoli, a bydd rhywfaint o bwerau dros dreth incwm yn dod yn 2019

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i leoli yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ac yn cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad (ACau). Llywodraeth Cymru yw'r adran weithredol.

Ers 2011 mae gan y Cynulliad bwerau deddfu cynradd dros faterion wedi eu datganoli, ac yn 2014 derbyniodd bwerau i godi trethi, gan gynnwys treth y stamp a threth tirlenwi.

Daeth Mesur Cymru 2017 yn gyfraith ym mis Ionawr, gan roi datganoli yng Nghymru ar lefel debyg i'r hynny sydd yn Yr Alban.

Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi pwerau ychwanegol dros drafnidiaeth, ynni a threfniadau etholiadol, gan gynnwys newid yr oedran pleidleisio a nifer yr ACau. Bydd elfen o reolaeth dros dreth incwm yn dilyn yn 2019.

Mae hefyd yn cynnwys fframwaith "pwerau wedi eu cadw", gan olygu bod popeth yn cael ei ystyried wedi'i ddatganoli i Gymru, heblaw bod deddfwriaeth benodol yn dweud yn wahanol.

Yn ogystal, gall y Cynulliad basio deddfau yn ymwneud â henebion ac adeiladau hanesyddol, gweinyddiaeth gyhoeddus, chwaraeon a hamdden, twristiaeth, cynllunio, amddiffynfeydd llifogydd, y Cynulliad ei hun a'r iaith Gymraeg.