Caru'r Anweledig Un

Fe fydd yn rhaid aros i'r enwebiadau gau cyn gwybod hyd sicrwydd ond mae'n debyg y bydd na fwy o ymgeiswyr seneddol yn sefyll yng Nghymru yn etholiad eleni nac mewn unrhyw etholiad cyffredinol o'r blaen. Gallwn ddisgwyl i o leiaf 250 o ymgeiswyr rhoi eu henwau ymlaen - cynnydd bychan o gymharu â 2010.

Gorau po fwyaf mewn un ystyr a dydyn ni ddim eto wedi cyrraedd y sefyllfa sy'n bodoli mewn ambell i wlad lle mae hyd a chymhlethdod y papur pleidleisio yn baglu sawl etholwr.

Serch hynny mae'r nifer fechan o enwebwyr sydd eu hangen ac ernes sydd heb gynyddu ers 1985 yn golygu eu bod yn gymharol hawdd ffurfio rhith bleidiau'r dyddiau hyn - pleidiau sy'n ymddangos fel pe baent yn bleidiau go iawn ond sydd mewn gwirionedd â nemor ddim presenoldeb na threfniadaeth ar lawr gwlad.

Y bobl gyntaf i sylweddoli bod hynny'n bosib oedd dilynwyr y Maharishi Mahesh Yogi wnaeth ffurfio Plaid y Gyfraith Naturiol yn 1992 gan enwebu 310 o ymgeiswyr. Efallai bod y Gwrw yn gallu cynnig sengl dragwyddol i'r nef ond doedd na ddim tocyn aur i San Steffan i fod ac fe ddaeth y blaid i ben yn 2003.

Cafwyd ymdrech mwy difrifol yn 1997 pan enwebodd Plaid y Refferendwm 547 o ymgeiswyr gan ennill 3% o'r bleidlais - canlyniad digon parchus o gymharu â phlaid Ewro-sgeptig fach arall wnaeth ymddangos am y tro cyntaf yn yr un etholiad. Ukip oedd enw honno. Sgwn i beth ddigwyddodd iddi?

Mae modd dadlau bod 'na elfennau o fod yn rhithiol yn perthyn Ukip a'r Blaid Werdd yng Nghymru o hyd. Dydw i ddim yn golygu hynny mewn ffordd ddilornus. Mae'r pleidiau yn bodoli ar lefel genedlaethol, maent yn cynrychioli ffrydiau o'r farn gyhoeddus ac mae ganddynt yr adnoddau i gynnal ymgyrch.

Yn y ffyrdd a'r caeau, ar y llaw arall, prin bod y ddwy blaid yn bodoli. Hyd y gwn i does gan y Blaid Werdd yr un cynrychiolydd etholedig yng Nghymru. Rwy'n meddwl mai tri sydd gan Ukip sef Nathan Gill ei hun a dau gynghorydd. Dydw i ddim wedi palu trwy'r blwyddlyfrau. Efallai fy mod wedi colli un neu ddau, ond mae'r darlun cyffredinol yn weddol eglur.

Pa wahaniaeth mae hynny'n gwneud mewn gwirionedd? Dim llawer mewn etholiadau cyfrannol megis etholiadau Ewrop a'r Cynulliad. Mae modd llwyddo yn y rheiny gydag ymgyrch genedlaethol.

Mae system gyntaf i'r felin San Steffan ar y llaw arall yn ei gwneud hi'n anodd iawn ennill seddi heb drefniadaeth leol a llawer o waith caib a rhaw. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn clywed llawer am Ukip a'r Gwyrddion wrth i'r etholiad agosáu ac mae'n debyg y bydd 2015 yn garreg filltir bwysig i'r ddwy blaid. Serch hynny rwy'n fodlon mentro mae sero fydd eu sgoriau yng Nghymru a'r Fai'r seithfed.