Y seddi i'w gwylio yng Nghymru

pleidleisio Image copyright other

Gyda'r ymgyrch swyddogol nawr wedi dechrau, dwi am roi fy mhen ar y bloc a cheisio proffwydo beth fydd yn digwydd yn rhai o seddi mwyaf diddorol Cymru.

Gogledd Caerdydd

Dyma'r sedd fwyaf ymylol yng Nghymru. Dim ond mwyafrif o 194 sydd gan yr aelod Ceidwadol presennol, Jonathan Evans, dros y blaid Lafur.

Ac mae'n sedd mae'n rhaid i'r Ceidwadwyr gadw gafael arni os ydyn nhw'n mynd i ennill mwyafrif yn San Steffan. Mae'n un o'r seddi prin hynny sydd yn adlewyrchu yn union ganlyniad yr etholiad. Ym mhob etholiad ers 1983 mae'r aelod seneddol yma wedi bod o'r un blaid a'r prif weinidog.

Ond mae'n anodd gweld y Ceidwadwyr yn cadw gafael arni, dyw Jonathan Evans ddim yn sefyll y tro hwn a gyda'r arolygon barn yn dangos cynnydd ym mhoblogrwydd y blaid Lafur yn yr etholaeth, dylai'r ymgeisydd Llafur, Mari Williams, fod yn reit hyderus o gipio'r sedd yn ôl i'w phlaid.

Canol Caerdydd

Gyda mwyafrif o 4,576 i'r Democratiaid Rhyddfrydol, dyw hon ddim yn edrych fel sedd ymylol - ond mae'n mynd i fod yn her enfawr i Jenny Willot ddal gafael ar y sedd y cipiodd oddi ar y blaid Lafur yn 2005.

Bryd hynny roedd pleidlais y myfyrwyr yn allweddol, ond ers ffurfio clymblaid gyda'r Ceidwadwyr a chynyddu ffioedd dysgu, mae poblogrwydd y blaid wedi plymio.

Maen nhw eisoes wedi colli'r sedd i'r blaid Lafur yn y Cynulliad, a Llafur hefyd sydd â rhan fwyaf o seddi cyngor yr etholaeth. Mae'n anodd gweld unrhyw ganlyniad arall ond llwyddiant i'r ymgeisydd Llafur, Jo Stevens.

Brycheiniog a Maesyfed

Pe bydde chi'n trosglwyddo cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr arolygon barn diweddaraf i'r etholaeth yma, yna fe ddylai'r Ceidwadwyr gipio sedd Roger Williams yn reit hawdd. Daeth y Ceidwadwyr yn ail cryf yn 2010, a gyda'r cwymp yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol does dim dwywaith bod ganddyn nhw siawns go dda.

Ond y cwestiwn mawr yw, a fydd cefnogaeth bersonol Roger Williams yn ddigon i'w achub? Dyna mae llawer o Geidwadwyr yn ei boeni, ond mae'n bell o fod yn sicr. Mae hon yn un i'w gwylio, fe all fod yn agos iawn.

Alun a Glannau Dyfrdwy

Ar bapur fe ddylai'r blaid Lafur gadw gafael ar sedd Alun a Glannau Dyfrdwy yn ddigon hawdd. Ond fydd Mark Tami ddim yn gorffwys ar ei fri er gwaethaf ei fwyafrif o 3,000.

A'r rheswm am hynny yw bygythiad UKIP. Fe ddangosodd yr etholiadau Ewropeaidd nad ffenomenon yn Lloegr yn unig ydyn nhw, er yn wahanol i Loegr, fe fydd UKIP yng Nghymru yn siŵr o achosi mwy o broblem i'r blaid Lafur na'r Ceidwadwyr.

Ac wedi llwyddiant y blaid yn yr ardal hon yn yr etholiadau Ewropeaidd, gan hawlio 33% o'r bleidlais, os ydyn nhw'n mynd i lwyddo yn unrhyw le yng Nghymru yn dyma fydd yr etholaeth. Maen nhw'n sicr o gipio nifer fawr o bleidleisiau, ond fe fydd dal yn sioc enfawr os ydyn nhw'n llwyddo i ennill sedd yng Nghymru.

Merthyr Tudful a Rhymni

Sedd saff arall i'r blaid Lafur fydde chi'n ei feddwl ond yma hefyd mae Llafur yn wynebu bygythiad gan UKIP, wedi canlyniad hynod o dda yma yn yr etholiadau Ewropeaidd.

Mae mwyafrif y blaid Lafur wedi dirywio yn sylweddol yma yn y ddegawd ddiwethaf. Ychydig dros 4,000 yw'r mwyafrif nawr, ond yn 1997 roedd gan y blaid fwyafrif o 27,000.

Ar ben hynny, dyw'r aelod presennol Dai Havard ddim yn sefyll eto. Ond fel yn Alun a Glannau Dyfrdwy, er y gallaf weld UKIP yn cynyddu yn sylweddol yn eu pleidlais, dwi dal yn rhagweld y bydd hon yn parhau i fod yn sedd Lafur.

Ynys Môn

Ynys Môn yw gobaith mawr Plaid Cymru i gynyddu ar y tri aelod seneddol sydd ganddyn nhw yn bresennol (er maen nhw hefyd yn targedu Ceredigion a Llanelli). Fe gipiodd Rhun ap Iorwerth y sedd i'r blaid yn is-etholiad y Cynulliad yn 2013, ond yn San Steffan mae Albert Owen wedi dal gafael ar y sedd i'r blaid Llafur ers 2001, ac fe fydd ei boblogrwydd personol yn sicr yn ffactor fawr yma.

Un hwb i obeithion Plaid Cymru fyddai llwyddiant UKIP yn y sedd, os ydyn nhw'n cipio digon o bleidleisiau oddi ar Lafur fe fyddai'n sicr yn help mawr i Blaid Cymru.

Ond dwi'n rhagweld y bydd Albert Owen yn cadw ei sedd, a Phlaid Cymru yn cadw'u gafael ar y tair sedd sydd ganddyn nhw yn bresennol.

Wrth gwrs fe all pethau newid yn y chwe wythnos nesaf, ond ar hyn o bryd er y bydd yna frwydrau diddorol iawn yng Nghymru, dwi ddim yn rhagweld y bydd rhyw lawer o seddi yn newid dwylo yn y pendraw.