Ian Gough yn apelio yn erbyn ei euogfarn

Ian Gough
Image caption Mae Ian Gough wedi ennill 64 o gapiau dros ei wlad

Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Ian Gough, wedi lansio apêl yn erbyn ei euogfarn am ymosod ar ei gyn-gariad, Sophia Cahill.

Fe gafodd Gough, 38 oed o Abertawe, ddirwy o £2,100 ar ôl iddo ei gael yn euog o'r ymosodiad yn Llys Ynadon Croydon ym mis Gorffennaf y llynedd.

Er iddo honni ei fod yn ddieuog, penderfynodd y llys ei fod wedi gwthio cyn-enillydd teitl Miss Wales i mewn i ddrws cerbyd.

Fe heriodd Gough y penderfyniad yn Llys y Goron Croydon ddydd Llun.

Mae'r chwaraewr ail-reng, sydd nawr yn chwarae i'r Dreigiau, wedi ennill 64 o gapiau dros ei wlad.