Etholiad 2015: Y frwydr yn yr Alban

Baneri yr Alban a'r DU

Er bod chwe mis ers canlyniad refferendwm am annibyniaeth Yr Alban, mae llawer o drafod am y gefnogaeth i'r Cenedlaetholwyr yn yr SNP, a sut o bosibl allai hynny effeithio ar y Blaid Lafur Albanaidd.

Mymryn o dan 200,000 o aelodau sydd gan Llafur ym Mhrydain, tra dros y Sul fe gyhoeddodd yr SNP bod dros 100,000 yn aelodau o'u plaid nhw bellach.

Maen nhw'n pwysleisio bod pleidlais i'r SNP yn bleidlais o blaid cyfartaledd, cadw gwasanaethau cyhoeddus ac ers lles y bobl.

Mae hynny yn cael ei groesawu yn Yr Alban - ac effaith hynny i'w weld yn yr arolygon barn sy'n proffwydo y bydd dwsinau, nid dim ond chwech, aelod seneddol ganddyn nhw yn San Steffan wedi'r etholiad.

Ond agosa'n byd y daw 7 Mai a bwrw pleidlais, anodda'n byd fydd hi i wleidyddion yr SNP fachu'r sylw ar draws Ynysoedd Prydain o'i gymharu â'r Democratiaid Rhyddfrydol, y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur.

Yn Lloegr - ble mae 85% o'r boblogaeth, papurau newydd a sianeli teledu torfol Prydain - fe fydd y sylw ar y pleidiau Prydeinig.

Image caption Dadlau dros ddylanwad, a rhoi "asgwrn cefn" i'r Blaid Lafur mae Nicola Sturgeon

'Asgwrn cefn'

Felly dadlau dros ddylanwad, a rhoi "asgwrn cefn" i Llafur mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, a gwneud adduned na fydden nhw fyth yn cefnogi'r Torïaid yn Downing Street.

Anhawster Llafur yn Yr Alban ydi ymladd dau elyn ar yr un pryd. Yr SNP yn y gogledd a'r Ceidwadwyr yn y de. Un gwrthwynebydd sydd gan y Ceidwadwyr, sef plaid Ed Miliband.

Ac eto, yn ôl Gwydion ap Siencyn, gweithiwr cymdeithasol sy'n byw yn Govanhill, Glasgow, mae 'na newid yn yr ardaloedd traddodiadol adain chwith.

Mae mwy meddai, fel petai nhw'n gwyro at bleidleisio i'r SNP. Yn ôl Gwydion, dydi'r Cenedlaetholwyr ddim yn cael eu gweld fel "Tartan Tories" mwyach.

'Democratiaeth yn agosach i'r bobl'

Ar strydoedd ardal y Gorbals i'r de o Afon Clyde, roedd pobl yn cadarnhau'r newid sydd i'w weld yn digwydd.

Mi ddywedodd Steve Gilmour wrtha'i bod nifer o'i gyfeillion a'i deulu yn siarad yn agored am newid eu pleidlais o Llafur i'r SNP.

Yn ôl Liz Curran, mae'r ymgyrchoedd cyn y refferendwm wedi deffro teimladau o fod eisiau gweld democratiaeth yn agosach i'r bobl, er lles y bobl.

A'r mwyaf plaen ei dafod oedd gyrrwr tacsi a yrrodd fi i ardal Pollock ar gyrion Glasgow. Yn ôl John Coyne, roedd wedi pleidleisio i'r Blaid Lafur ar hyd ei oes, ond byth eto meddai.

Pam ofynnais i? Gan eu bod wedi ochri gyda'r Ceidwadwyr fis Medi diwethaf er mwyn annog Albanwyr i ddweud "Na" i annibyniaeth.

Image caption Dim ond Llafur all ffurfio llywodraeth yn lle'r Torïaid, yn ôl Jim Murphy

'Cymdeithas decach'

Mi holais Jim Murphy, arweinydd newydd Llafur yr Alban, ar ddilema ei blaid.

Na, meddai, yr unig beth mae'n rhaid i ni ei wneud ydi dadlau mai dim ond Llafur all ffurfio llywodraeth yn lle'r Torïaid. Byddai hynny yn golygu dim mwy o doriadau, ac yn arwain at gymdeithas decach.

Sy'n debyg i genadwri'r SNP. Ond yn yr Alban mae pleidiau eraill hefyd yn ennill cefnogaeth. Mae plaid Werdd yr Alban a'r SSP, y Scottish Socialist Party, wedi denu mwy o aelodau.

Yn ystod y Senedd ddiwethaf roedd 11 aelod gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn Yr Alban. Un aelod Ceidwadol oedd 'na.

Os bydd arolygon barn yn gywir fe allai'r ddwy blaid weld colledion.

Megis dechrau

Dyna pam eu bod yn ymosod ar ddiffyg manylion economaidd yr SNP, sut mae dileu a lleihau dyled y wlad a thalu am gadw gwariant cyhoeddus.

Doedd dim llawer o fanylion am hynny yn araith Ms Sturgeon gerbron ei phlaid yn Glasgow brynhawn Sadwrn.

Megis dechrau mae'r ymgyrch etholiadol, ond o'r blas ges i yn Glasgow, tydi'r canfasio, y trafod na'r dadlau wedi darfod ers i'r SNP golli'r refferendwm a cholli'r cyfle i fod yn wlad annibynnol.

Nawr, anelu at gael rhwng 20 a 40 o aelodau seneddol i bwyso ar ba bynnag blaid fydd yn ffurfio'r llywodraeth Brydeinig nesaf mae'r SNP.

Petai hynny yn digwydd ym mis Mai, fe fydd yn newid hynod arwyddocaol yn hanes gwleidyddol a chymdeithasol yr Alban.