Iechyd i hawlio sylw'r gwleidyddion

Ysbyty Image copyright Thinkstock
Image caption Fe fydd dyfodol yr gwasanaeth iechyd yn sicr yn bwnc etholiadol amlwg

Mae cyfnod y clebran a'r cecru 'di cyrraedd. Dros yr wythnosau nesa' fe fydd ymgeiswyr ac ymgyrchwyr lu yn trafod pynciau diri mewn ymgais i'ch argyhoeddi o werth eu polisïau.

A ddylid codi neu ostwng trethi, ydi'r system fudd-daliadau yn gweithio, oes rhaid newid polisïau mewnfudo, a pha rôl ddylai'r DU ei chwarae yn yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol?

Yn y meysydd hyn, a sawl un arall, fe fydd penderfynu pa blaid neu bleidiau fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf yn San Steffan yr un mor berthnasol i etholwyr yng Nghymru ag unrhyw le arall.

Ond fetia'i swllt y bydd y gwasanaeth iechyd hefyd yn bwnc trafod ar stepen y drws.

Ond dalwch 'mlaen, arhoswch eiliad, meddech chi, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am redeg y gwasanaeth iechyd yma.

Oes mae yna ddadlau ffyrnig wedi bod amdano yn ystod y misoedd diwethaf, ond does bosib mai etholiad y cynulliad y flwyddyn nesaf yw'r cyfle i ni gael dweud ein dweud ynglŷn â hynny?

Image caption Fydd y pleidiau ddim am golli cyfle i drafod y gwasanaeth iechyd

Arolygon barn

Ar un lefel ry'ch chi'n llygad eich lle. ...ond peidiwch â meddwl am eiliad fod hynny'n golygu y bydd y pleidiau sy'n ymgyrchu yng Nghymru yn dewis anwybyddu'r pwnc.

Yn syml, yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, dydyn nhw ddim am golli cyfle.

"Mae'r pleidiau yn Llundain yn siarad llawer am iechyd, fe fydd y cyfryngau yn siarad llawer ynglŷn ag iechyd.

"Ac wrth gwrs mae'r arolygon barn yn awgrymu fod iechyd yn bwysig dros ben i'r etholwyr. Felly rhaid i'r pleidiau yng Nghymru hefyd siarad am iechyd efallai dim ond i osgoi edrych yn hollol out of touch."

Ond ydi'r holl sylw tybed yn mynd i ddrysu'r etholwyr, yn enwedig o ystyried fod arolygon barn diweddar yn awgrymu fod sawl un yn dal yn ansicr ynglŷn â beth yn union yw cyfrifoldebau'r ddwy lywodraeth ar y naill ochr i Glawdd Offa?

Gwahaniaethau

A dyma i chi rywbeth arall i'w ystyried. Yn gyffredinol mae'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn llawer iawn mwy poblog o gymharu â Lloegr a'r Alban.

Gyda mwy o bobl yn byw eu bywydau o ddydd i ddydd ar y ffin rhwng dwy system iechyd erbyn hyn, o ran strwythur o leiaf, maen nhw'n edrych yn wahanol iawn i'w gilydd.

Ac yn ôl Ifan Morgan Jones, darlithydd newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, mae yna wahaniaeth arall yn bodoli rhwng Cymru a'r Alban sy'n effeithio ar ddealltwriaeth etholwyr.

"Yn yr Alban ma' sawl papur cenedlaethol yn barod - a 'da ni wedi gweld lansiad un arall 'The National' yn sgil y refferendwm ar annibyniaeth.

"Ond yn anffodus yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ni wedi gweld cwymp mawr yng ngwerthiant papurau fel y Western Mail a'r Daily Post.

"Yn sicr fe fydd y pleidiau Prydeinig yn ceisio pwyso a mesur perfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod yr ymgyrch hon a hynny er eu budd nhw ei hunain."

Image caption Fe fydd y pleidiau Prydeinig yn ceisio pwyso a mesur perfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru

Gwariant cyhoeddus

Ond o ystyried mai polisïau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn Lloegr fydd yn cael eu trafod ar y cyfan, oes unrhyw werth i etholwyr Cymru bwyso a mesur yr addewidion?

Oes, yn ôl Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

"Mae beth mae'r pleidiau yn dweud am iechyd, a dyfodol y gwasanaeth iechyd yn rhoi syniad i'r cyhoedd ynglŷn â'i safbwynt nhw ar faterion eraill - ac yn rhan o'r neges ynglŷn â sut ma' nhw'n gweld gwladwriaeth y wlad yn datblygu. Mae e'n awgrym cry' o ran eidioleg."

Ac efallai'n bwysicach nag unrhyw beth yw bod penderfyniadau gwleidyddion San Steffan, yn enwedig o ran gwariant cyhoeddus, yn gallu cael effaith ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

"Mae iechyd wedi ei ddatganoli a Llywodraeth Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau," meddai Mr Scully.

Buddsoddi

"Ond mae'r arian maen nhw'n cael i'w wario ar y gwasanaeth iechyd yn dibynnu ar Fformiwla Barnett. Felly ma' penderfyniadau yn Lloegr a goblygiadau mawr o ran faint o arian maen nhw'n ei gael yng Nghaerdydd.

"Ac oes yna driad i'r gyllideb. Oherwydd bod y gwasanaeth iechyd yn cymryd cymaint o gyllideb Cymru, mae'n anodd iawn i Lywodraeth Cymru warchod iechyd heb wneud toriadau mawr i bopeth arall."

Mae'r holl bleidiau hyd yma yn dweud y byddan nhw, o ennill grym, yn buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Ac fe ddylai Llywodraeth Cymru elwa o hynny. Ond beth petai llywodraeth o bynnag liw yn San Steffan yn y dyfodol yn dewis gwneud newidiadau mawr i'r ffordd o ariannu iechyd - er enghraifft drwy godi tâl am rai gwasanaethau.

Yn ôl yr Economegydd Iechyd yr Athro Ceri Phillips o Brifysgol Abertawe, fe fyddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus.

"Os ydyn nhw (yn Llundain) yn mynd i ddatblygu system yswiriant, neu gasglu mwy o arian o bresgripsiynau neu ddefnyddio mwy ar y sector breifat, mae hynny'n mynd i gael effaith ar yr arian sy'n dod i Gymru."

Ydy, mae'n gyfnod etholiadol unwaith eto a'r clebran a'r cecru 'di dechrau.

A hyd yn oed yng Nghymru mewn etholiad cyffredinol - mae iechyd yn ganolog i'r dadlau.