10,000 o barthau .cymru wedi eu gwerthu

Parthau newydd .cymru a .wales Image copyright Nominet
Image caption Mae'r parthau newydd .cymru a .wales wedi bod ar gael i bawb ers 1 Mawrth, 2015

Mae dros 10,000 o gyfeiriadau parth .cymru a .wales wedi eu gwerthu ers iddyn nhw fod ar gael i bawb ar Dydd Gŵyl Dewi.

Ac o ddydd Mawrth ymlaen bydd y cwmni sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran y cyhoedd yn rhyddhau rhestr o 3,000 o enwau parthau ychwanegol.

Bydd modd prynu enwau parthau cyffredinol, gan gynnwys enwau trefi a dinasoedd megis Y Bala.cymru, Aberystwyth.cymru, Abertawe.cymru ac enwau generig fel barabrith.cymru neu fferyllfa.cymru.

Roedd enwau parth cyfyngedig wedi bod ar gael ers Medi 2014, ond o 1 Mawrth roedd unrhyw un yn gallu dewis y cyfeiriad we neu e-bost delfrydol trwy eu darparwr parthau.

'Cyfle unigryw'

Ymysg y gwefannau amlwg sydd wedi lansio eu parthau .cymru a .wales, mae Llywodraeth Cymru, S4C ac Undeb Rygbi Cymru.

Wrth sôn am yr enwau ychwanegol fydd ar gael o ddydd Mawrth, dywedodd Jo Golley o .cymru .wales: "Mae'r enwau hyn yn cynnwys enwau parth generig ardderchog.

"Mae rhai yn hwyl, eraill yn gyfeiriadol, rhai yn fwy perthnasol ond beth maen nhw oll yn ei gynnig yw cyfle unigryw i sicrhau presenoldeb nodweddiadol Cymreig ar-lein."

Straeon perthnasol