Wrecsam 1-1 Dover Athletic

Wrecsam Image copyright Wrexham fc

Yn eu gêm gyntaf ers diswyddo'u rheolwr Kevin Wilkin, fe gafodd clwb pêl-droed Wrecsam gêm gyfartal ar y Cae Ras nos Fawrth.

Dover oedd yr ymwelwyr, ond Wrecsam aeth ar y blaen yn yr hanner cyntaf gyda Jay Harris yn sgorio wedi 38 munud gydag ergyd i gornel ucha'r rhwyd o bas Sam Finley.

O safbwynt meddiant ac ergydion roedd hi'n gêm eitha' cyfartal, ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu pan ddaeth Dover yn gyfartal ar yr awr o droed Ricky Modeste.

Fe gafodd Dover gyfle gwych i fynd ar y blaen chwe munud yn ddiweddarach wrth i Matty Smith faglu Sean Raggett yn y cwrt - cic o'r smotyn oedd barn y dyfarnwr.

Ar ôl artaith ciciau o'r smotyn yn Wembley ddydd Sadwrn, mae'n debyg fod y golwr Andy Coughlin wedi gweld digon ohonyn nhw am un tymor, ond fe lwyddodd i arbed cynnig Stefan Payne yn wych.

Er i Wrecsam greu mwy o gyfleoedd yn y chwarter olaf, roedd Louis Moult, Connor Jennings a Steve Tomassen yn euog o'u gwastraffu.