Darganfod mwy am gyfrinachau Llyfr Du Caerfyrddin

Llyfr Du Caerfyrddin Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae delweddau wynebau a darnau o destun wedi eu darganfod yn un o lyfrau hynaf, a phwysicaf, Cymru.

Llyfr Du Caerfyrddin, sydd dros 750 mlwydd oed, yw'r llyfr Cymraeg cyntaf i sôn am gymeriadau canoloesol megis y Brenin Arthur a'r dewin Myrddin.

Ond am gannoedd o flynyddoedd mae delweddau a darnau o farddoniaeth wedi eu cuddio o'r golwg.

Erbyn hyn, diolch i dechnegau newydd - ffotograffiaeth cydraniad uchel a golau uwch-fioled - mae rhai o'r cyfrinachau wedi dod i'r amlwg am y tro cyntaf.

Mae'r llyfr, gafodd ei ysgrifennu ym mhriordy Caerfyrddin, bellach yn berchen i, ac yn cael ei gadw yn, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a hynny dan amodau amgylcheddol arbennig er mwyn amddiffyn ei gyflwr bregus.

'Ychwanegiadau cyson'

Cafodd y casgliad o gerddi a darluniau eu hysgrifennu gan un person yn y 13eg ganrif, wnaeth ychwanegu at y gwaith dros nifer o flynyddoedd.

Wedi hynny, cafodd y llyfr ei basio o un perchennog i'r llall, gyda mwy o ychwanegiadau'n cael eu gwneud ar yr ymylon.

Dywedodd yr Athro Paul Russell, o Brifysgol Caergrawnt, sydd wedi bod yn darganfod cyfrinachau'r llyfr: "Mi wnaeth y traddodiad o ychwanegu at y gwaith barhau dros y blynyddoedd gyda pherchnogion newydd. Roedd yn llyfr byw, ac ychwanegiadau'n cael eu gwneud yn gyson."

Ond 300 mlynedd ar ôl dechrau ei ysgrifennu, mi wnaeth y perchennog ar y pryd - credir mai Jaspar Gryffyth oedd o - benderfynu cael gwared ar unrhyw beth nad oedd yn rhan o'r testun gwreiddiol.

Ychwanegodd yr Athro Russell: "Mi wnaeth y dyn hwn o'r 16eg ganrif fynd drwy'r llyfr yn ei dacluso. Mi wnaeth y perchennog ddileu llawer o ddeunydd o ymylon y tudalennau. Unrhyw beth roedd o'n credu oedd wedi'i ychwanegu at y llyfr, mi wnaeth o gael gwared ohono."

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Delweddau wynebau sydd wedi dod i'r amlwg diolch i olau uwch-fioled

'Moment ysgytwol'

Roedd y llyfr wedi cael ei ysgrifennu ar felwm - croen anifail sydd wedi cael ei ymestyn, ei sychu a'i wneud yn llyfn.

Mae'r Athro Russell yn credu bod y person wnaeth ddileu rhannau o'r llyfr wedi defnyddio carreg pwmis.

Dywedodd: "Mae'n cael gwared ar haen o'r wyneb, ond mae'r inc wedi treiddio'n bellach na hynny, felly gallwn ni ddefnyddio golau uwch-fioled i ddod â'r inc hwnnw i'r amlwg.

"Mewn rhai mannau mae'n amhosib ailddarganfod unrhyw beth oherwydd ei fod wedi'i rwbio mor galed."

Er bod rhai'n amau bod rhyw fath o destun yn cuddio ymysg y tudalennau, cafodd yr ymchwilwyr cyntaf i edrych ar y llyfr gan ddefnyddio golau uwch-fioled eu synnu wrth weld dau wyneb yn syllu arnyn nhw.

Dywedodd yr Athro Russell: "Roedd yn foment reit ysgytwol pan wnaethon ni droi'r dudalen a gweld wynebau yng nghornel y dudalen, ynghyd â llinell o ysgrifen.

"Rydym ni'n meddwl bod yr ysgrifen o un perthynas yn rhoi rhywbeth, o bosib y llyfr, i berthynas arall."

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Barddoniaeth sydd wedi'i ddarganfod yn Llyfr Du Caerfyrddin

'Llawer eto i'w ddarganfod'

Yn ogystal mi wnaeth yr ymchwilwyr ddarganfod tudalen o farddoniaeth Gymraeg, barddoniaeth maen nhw'n credu sydd erioed wedi'i weld o'r blaen.

Cafodd delwedd o bysgodyn ei ddarganfod ar dudalen arall, ac maen nhw'n parhau i chwilio am fwy o farddoniaeth neu ddelweddau sydd wedi eu cuddio yn y llyfr.

Dywedodd yr Athro Russell: " Mae hyn yn dangos bod llawer eto i'w ddysgu gan Lyfr Du Caerfyrddin, er gwaethaf y ffaith ei fod yn llyfr adnabyddus.

"Mae technoleg fodern yn golygu bod yn haws i lawer o bobl allu profi pethau o'r fath.

"Efallai bod llawer eto i'w ddarganfod wrth i dechnoleg, a thechnegau, ddatblygu."

Bydd yr Athro Russell a'r fyfyrwraig PhD Myriah Williams yn cyflwyno eu darganfyddiadau i gynhadledd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ddydd Mercher.