Cymry'r Titanic

Titanic Image copyright National museums northern ireland

Roedd hi'n un o longau mwyaf moethus a modern ei chyfnod ond a hithau ar ei mordaith gyntaf fe suddodd y 'Titanic'. Roedd 'na Gymry ymhlith y teithwyr.

Pan foriodd yr RMS Titanic am y tro cyntaf o borthladd Southampton am Efrog Newydd, gyda glo Cymru yn pweru ei injanau stêm, roedd arni dros 1,300 yn deithwyr yn mwynhau cyfleusterau moethus yr 11 o ddeciau oedd ar y llong a thua 900 o aelodau'r criw.

Tarodd y llong yn erbyn craig o iâ a dechreuodd suddo ar 14 Ebrill 1912

"Mor fawr â Threherbert ..."

Ymhlith y Cymry oedd y teithio i'r America roedd y bocswyr David John (Dai) Bowen, 21, o Dreherbert yn y Rhondda a Lesley Williams, 24 oed o Donypandy. Roedden y ddau gyn-lowr wedi prynu eu tocynnau trydydd dosbarth i'r Titanic yn Stryd y Santes Fair yng Nghaerdydd gan gwmni teithio Dean & Dawnson.

Roedden nhw yn edrych ymlaen i sawl gornest bocsio oedd wedi eu trefnu ar eu cyfer. Fe wnaethon nhw dalu £16 2s i gychwyn ar eu hantur fawr o Southampton ar Ebrill 10, 1912.

Dai Bowen oedd pencampwr bocsio pwysau pluen Cymru ac mewn llythyr at ei fam ar ol dechrau ar y fordaith fe roddodd ddisgrifiad trawiadol o'r 'Titanic':

"Mae hon yn llong hyfryd, mae hi bron iawn mor fawr â Threherbert ..."

Bocsiwr pwysau bantam oedd Lesley Williams, ac yn briod gydag un mab. Fel Dai Bowen roedd yn cael ei ystyried yn focsiwr addawol.

Cafodd corff Lesley Williams ei ddarganfod gan y 'Mackay-Bennett' - y llong a gafodd y dasg o chwilio am gyrff y meirw. Ddaeth neb o hyd i gorff Dai Bowen.

Cerdyn post

Glöwr arall a foddodd oedd William Rogers, 29 oed, o Bontardawe. Ysgrifennodd gerdyn post i'w gyfaill, James Day, o Queenstown yn Iwerddon a dweud

"...dim ond gair i ddangos fy mod yn fyw ac yn iach, (mae'n) mynd yn wych, mae'n dipyn o treat...".

Yn teithio gydag o roedd ei nai 22 oed, Evan Davies, glöwr o Fryncoch ger Castell-nedd. Roedd y ddau wedi talu £8 1s am eu tocyn trydydd dosbarth. Chafodd eu cyrff ddim eu darganfod ond mae cofeb iddyn nhw yng Nghapel y Glais, Cwmtawe.

Mae cofeb arall i un o feirw'r 'Titanic' yn Eglwys Llangatwg ger Castell-nedd - Robert William Norman Leyson, 25 oed, o Abertawe. Yn fab i gyfreithiwr amlwg o'r ddinas, roedd ar ei ffordd i ymuno â'i frawd, Thomas, yn Efrog Newydd.

Daeth y 'Mackay-Bennett' o hyd i'w gorff ac mae'r cofnodion o'i eiddo yn dyst i'w statws fel teithiwr ail-ddosbarth trwsiadus: siwt a chrys, sbectol, ysgrifbin, glanhawr cetyn, clip tei aur, cês arian gyda'i lythrennau arno ac arian parod.

Collodd Penarth ddau o'u trigolion oedd â'u bryd ar fywyd gwell dros y dŵr: Jim Reed, cigydd 19 oed oedd ar ei ffordd i ymuno â'i frawd yng Nghanada, ac Annie Louise Rowley Meek, 31, morwyn a oedd wedi cael addewid o swydd fel nyrs yn Efrog Newydd wedi i'w phriodas ddod i ben.

Cafodd corff un o'r stiwardiaid, Owen W Samuel, o Abertawe ei ddarganfod gan y 'Mackay-Bennett' ac fe gafodd y dyn priod 41 oed ei gladdu yn Novia Scotia ar 9 Mai 1912.

Lowe - y 'swyddog a aeth yn ôl'

Y Cymro mwyaf adnabyddus syn cael ei gysylltu â'r hanes yw'r 'dyn a aeth nôl', Harold Lowe. Cafodd ei bortreadu gan Ioan Gruffudd yn y ffilm 'Titanic', yn 1997.

Un o'r Bermo oedd Lowe a aeth i'r môr yn 14 oed gan ddringo drwy'r rhengoedd i ddod yn bumed swyddog ar y Titanic. Er ei fod yn forwr profiadol erbyn hynny, hon oedd ei daith gyntaf ar draws yr Iwerydd.

Pan darodd y llong y mynydd iâ, roedd Lowe yn cysgu. Ond unwaith iddo ddeffro, aeth ati i helpu i lenwi'r badau achub gyda merched a phlant, yn ôl y drefn ar y pryd. Cymerodd reolaeth o fad achub rhif 14, a'i rwyfo i ddiogelwch, ryw 150 llath o'r llong.

Ond yn wahanol i'r swyddogion yn y badau eraill, penderfynodd fynd nôl at y llong oedd yn suddo. Ar ôl sicrhau fod ei deithwyr yn ddiogel, arhosodd i'r sgrechfeydd ostegu cyn mentro nôl gyda gwirfoddolwyr eraill drwy'r dyfroedd oer llawn cyrff i chwilio am bobl oedd dal yn fyw yn y dŵr.

Pedwar o bobl a lwyddodd i'w hachub o'r dŵr, ond ar ei ffordd tuag at ddiogelwch y 'Carpathia', gwelodd ddau gwch gwynt yn llawn pobl; clymodd un i'w fad a'i thywys y tu ôl iddo a throsglwyddodd 20 o bobl o'r llall i'w fad ei hun ac i ddiogelwch.

Goroesi

Rhoddodd Lowe dystiolaeth i wrandawiad Senedd America i'r drychineb. Dywedodd rhai o'r tystion eraill o blith y teithwyr mai ef oedd yr unig un o'r swyddogion a aeth nôl i chwilio am oroeswyr.

Cafodd Lowe ei groesawu fel arwr gan 1,300 o bobl leol nôl yn y Bermo a chafodd oriawr aur ganddynt am ei ddewrder.