pabell etholiad
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pabell etholiadol BBC Cymru ar daith

1 Ebrill 2015 Diweddarwyd 18:27 BST

Yn ôl rhai mae'n edrych fel iglw, armadilo neu falws melys (marshmallow), ond cyn hir fe fydd pabell etholiadol enfawr BBC Cymru ar ei ffordd i drefi ar hyd y wlad.

Gan droedio mwy o filltiroedd ymgyrchu nag erioed o'r blaen, bydd rhaglenni a gwasanaethau newyddion BBC Cymru Wales yn teithio i etholaethau allweddol rhwng dydd Llun 20 Ebrill a dydd Gwener, 1 Mai.

Fyddwn ni'n galw yn Y Bari, Caerfyrddin, Tregaron, Cei Connah, Llandudno a Chaerdydd.

Fe fydd nifer o raglenni dyddiol BBC Cymru ar deledu a radio yn cael eu darlledu o'r babell yn ystod pythefnos y daith.

Ein gohebydd Steffan Messenger gafodd gipolwg ar y babell wrth iddi gael ei chodi am y tro cynta'.