Gwylwyr y glannau yn achub teulu o chwech yn Sir Benfro

Cwch Image copyright Athena

Cafodd teulu o chwech eu hachub o iot oddi ar arfordir Sir Benfro yn ystod oriau man bore Iau.

Fe gafodd gwylwyr y glannau wybod toc ar ôl hanner nos bod y cwch mewn trafferthion mewn gwyntoedd cryfion yn ardal Aberdaugleddau.

Llwyddodd bad achub i achub y rhai ar fwrdd y cwch, gan gynnwys dau o blant.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu.