Damwain Môn: Dynes mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty

A5 ar Ynys Môn Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A5 ar Ynys Môn rhwng Pont y Borth a Phont Britannia

Mae dynes mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty a dynes arall wedi ei hanafu'n ddrwg yn dilyn damwain rhwng dau gar ar Ynys Môn ddydd Mercher.

Roedd rhaid i un ddynes gael ei thorri o'i char gan y gwasanaethau brys yn dilyn y ddamwain rhwng Peugeot 307 du a Vauxhall Astra coch ar yr A5 rhwng Pont y Borth a Phont Britannia.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 14:10 a chafodd y ddwy ddynes eu cludo i Ysbyty Gwynedd Bangor, ond bu rhaid i yrrwr y Peugeot gael ei chludo i Uned Trawma Ysbyty Prifysgol Stoke ble mae hi'n parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain, ac maen nhw'n apelio i unrhyw dystion welodd y ddamwain neu'r Peugeot yn teithio o Lanfairpwll i gyfeiriad Porthaethwy i gysylltu â nhw.