Dirwy o £100,000 i dwyllwr 'hael'

Jason Alexander Image copyright Lewis Clarke/Geograph/Wales News
Image caption Cafodd achos Jason Alexander ei glywed yn Llys y Goron Caerdydd

Mae dyn brynodd gwerth miloedd o bunnau o declynnau electronig ar gerdyn credyd ei gyflogwr i'w gwerthu i'w gydweithwyr wedi gorfod talu dros £100,000 yn ôl i'w gyflogwr.

Fe brynodd Jason Alexander, 39 oed o Bont-y-pŵl, gwerth £91,000 o iPads, ffonau symudol ac offer cyfrifiadurol.

Fe wnaeth gyfaddef i dwyll ym mis Ionawr a chafodd ei garcharu am ddwy flynedd a hanner.

Ond yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, dywedodd y barnwr bod rhaid iddo dalu £115,000 yn ôl i'w gyn-gyflogwr.

"Mae'n ymddangos eich bod wedi ei wneud fel rhyw weithred o haelioni," meddai'r Barnwr Stephen Hopkins.

"Mewn rhai achosion, gwario £5,000 ar eitemau ac wedyn eu gwerthu am gyn lleied a £180 ar y sail nad oedd ganddyn nhw'r arian i'w brynu eu hunain."

Bydd rhaid i Alexander dalu £115,867 i'w gyn-gyflogwr o fewn chwe mis neu wynebu 18 mis ychwanegol dan glo.

'£10,000 pob mis'

Roedd gan Alexander reolaeth o wariant mewn cwmni rhannau ceir, Northern Automotive Systems yn Y Gilwern ger y Fenni.

Fe wnaeth o brynu 287 o bethau ar wefannau fel Amazon, eBay ac Argos.

Clywodd y llys bod bil misol cerdyn credyd y cwmni o dan fil o bunnau fel arfer, ond gydag Alexander yn rheoli'r gwariant, "cynyddodd i bron £10,000 pob mis".

Cafodd ei gynllun ei ddarganfod pan wnaeth rheolwyr y cwmni ofyn i weithwyr os oedden nhw wedi prynu nwyddau rhad.

Roedd Alexander wedi bod yn dileu e-byst ac yn ffugio dogfennau i guddio'r hyn oedd yn ei wneud.