Angladd dyn fu farw ar ôl ymosodiad mewn parc carafanau

Conner Marshall Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd Conner Marshall ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol ym Mharc Carafanau Bae Trecco

Mae angladd dyn 18 oed fu farw ar ôl ymosodiad arno mewn parc carafanau yn cael ei gynnal ar 11 Ebrill.

Cafodd Conner Marshall o'r Barri ei ddarganfod ym Mharc Carafanau Bae Trecco ym Mhorthcawl fis diwethaf ond bu farw yn yr ysbyty bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o'i lofruddio.

Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghapel Sant Pedr yn Ninas Powys am 11:00 ac mae'r teulu wedi gofyn i alarwyr wisgo dillad llachar.

Straeon perthnasol