Abertawe 3 - 1 Hull

Bafetimbi Gomis Image copyright Getty Images
Image caption Bafetimbi Gomis

Fe darodd Bafetimbi Gomis ddwywaith wrth i Abertawe ennill yn erbyn 10 dyn Hull City yn Stadiwm Liberty.

Ki Sung-yueng rhoddodd yr Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf, cyn i foli yn yr awyr gan Gomis ddyblu eu mantais.

Fe roddodd gôl gan Paul McShane yn dilyn cic-rydd gan Jake Livermore obaith i'r Teigrod, ond yn fuan wedyn cafodd David Meyler ei anfon i ffwrdd o'r cae ar ôl mynd i'r afael a Kyle Naughton wrth ymladd am y bêl yn yr awyr.

Wrth fanteisio ar y ffaith fod Hull i lawr i 10 dyn, fe seliodd Abertawe'r tri phwynt wedi ergyd bwerus gan Bafetimbi Gomis.

Mae'r fuddugoliaeth yn gosod Abertawe yn yr wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair, pwynt yn unig i ffwrdd oddi wrth eu record, sef o 47, a gyflawnwyd yn eu tymor cyntaf yn y gynghrair, nol yn 2011-12, o dan y cyn-reolwr Brendan Rodgers.