Reading 1 - 1 Caerdydd

Image copyright Getty Images

Reading 1 - 1 Caerdydd

Yr Adar Gleision yn dychwelyd i'r brifddinas gyda phwynt yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Reading.

Fe roddodd yr ymosodwr o Rwsia, Pavel Pogrebnyak, Reading ar y blaen yn gynnar yn yr hanner cyntaf, ond fe lwyddodd ymdrechion Caerdydd i gipio pwynt pan roddodd Conor McAleny y bêl yng nghefn rhwyd Reading yn dilyn croesiad taclus gan Aron Gunnarsson.