Wrecsam 4 - 0 Alfreton

connor jennings

Fe ddaeth wythnos gythryblus Wrecsam i ben ar nodyn cadarnhaol brynhawn Sadwrn.

Yn dilyn ymadawiad y rheolwr Kevin Wilkin ddechrau'r wythnos, fe sicrhaodd y Dreigiau fuddugoliaeth drawiadol dros Alfreton yn y Gyngres.

Daeth Connor Jennings yn agos at sgorio yn y funud agoriadol, cyn iddo roi Wrecsam ar y blaen bron hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf gyda gorffeniad gwych o groesiad gan Steve Tomassen.

Fe roddodd ergyd lan gan Jay Harris a gôl gyntaf o'r flwyddyn i Andy Bishop y tîm cartref ar y blaen o 3-0 cyn yr egwyl.

Wrth ddathlu 151fed gôl ei yrfa, fe sicrhaodd Bishop fuddugoliaeth gyfforddus i Wrecsam.