Shane Williams i arwain taith feics hanesyddol

Shane Williams

Mae mwy na 150 o seiclwyr yn cael eu harwain gan gyn-seren rhyngwladol Cymru, mewn ymgais i ail-greu hanes drwy aildroedio taith un o'r beiciau pedlo cyntaf erioed.

Mae'r cyn-asgellwr, Shane Williams yn dilyn y llwybr gymrodd Arthur Williams o Lanaman i Abertawe ac yn ôl yn 1885.

Mae'r llwybr 36 milltir yn cynnwys cymysgedd o ffyrdd, lonydd gwledig, a llwybrau beicio di-draffig.

Bydd elw o'r digwyddiad yn mynd tuag at elusen.

Wedi'r daith wreiddiol, fe sefydlodd Arthur Williams gwmni Defiance Cycle Works, ac yn eu hanterth, roedden nhw'n derbyn mwy na 50 o archebion y dydd.

Image caption Seiclwyr yn ymgynnull cyn y daith ddydd Llun