Damwain angheuol ar yr A470: Ymchwiliad yn parhau

A470 Llanrwst
Image caption Mae'r heddlu apelio am dystion wedi'r gwrthdrawiad bnawn Sul

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ar ôl i feiciwr modur farw a thri arall eu hanafu mewn gwrthdrawiad ger Llanrwst dros y penwythnos.

Cafodd ddwy fenyw a dyn arall eu cymryd i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A470 rhwng Betws-y-Coed a Llanrwst am tua 13:30 ddydd Sul.

Fe gafodd un o'r menywod ei hedfan i Ysbyty Gwynedd Bangor gydag anafiadau difrifol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad rhwng y beic modur a char BMW gwyn.

Cafodd y dyn a'r fenyw arall gafodd eu hanafu eu cymryd i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan gan barafeddygon. Bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle.

Straeon perthnasol