Caerdydd 0-3 Bolton

bolton v caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency

Caerdydd 0-3 Bolton

Fe sgoriodd y Cymro, Craig Davies ddwy gôl wrth i Bolton guro Caerdydd yn y Bencampwriaeth bnawn Llun.

Roedd hi'n ddi-sgôr ar yr hanner yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ond ddeng munud wedi dechrau'r ail hanner, fe sgoriodd Eidur Gudjohnsen i'r ymwelwyr.

Ychwanegodd Davies at y sgôr ddwywaith wedi hynny, a bu ond y dim iddo sgorio hatric.

Dyma ganlyniad gwaethaf yr Adar Gleision gartref dan adain Russell Slade.

Mae Caerdydd yn aros yn y 13eg safle yn nhabl y Bencampwriaeth.