Y Truman Show

Un o'r lluniau gwleidyddol enwocaf yw hwnnw o Harry S Truman drannoeth ei ail-ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn dal copi o'r Chicago Tribune yn dwyn y pennawd 'Dewey Defeats Truman'. Mae'r llun hwnnw'n cael ei ddefnyddio o hyd fel gwers i newyddiadurwyr a gwleidyddion i beidio mynd o flaen y gofyn.

Mae modd maddau i'r Tribune am wneud camgymeriad wrth rasio i fod yn gyntaf gyda'r newyddion. Wedi'r cyfan roedd pob un arolwg barn wedi darogan y byddai Dewey yn ennill a hynny'n ddigon cysurus ac roedd seffolegwyr a sylwebwyr bron yn unfryd na allai Truman ennill.

Nid y polau'n unig wnaeth arwain y proffwydi ar gyfeiliorn. Roedd synnwyr cyffredin yn awgrymu ei bod hi'n amhosib i'r Democratiaid lwyddo gyda'u clymblaid draddodiadol wedi ei hollti'n dair.

I'r chwith o Truman roedd plaid newydd, y Progressive Party, wedi enwebu'r cyn dirprwy arlywydd Henry A. Wallace fel ymgeisydd tra'r oedd Democratiaid taleithiau'r de wedi enwebu Strom Thurmond i amddiffyn goruchafiaeth y gwynion. Does dim rhyfedd bod cefnogwyr Dewey yn hyderus!

Beth wnaeth ddigwydd felly? Mae'n debyg bod etholiad 1948 wedi ei astudio yn fwy manwl nac unrhyw etholiad arlywyddol arall ac mae casgliad yr academyddion yn annisgwyl a diddorol.

Yn hytrach na'i rwystro, roedd y rhaniadau o fewn y Blaid Ddemocrataidd o gymorth i'r ymgeisydd. Fe esgorodd presenoldeb Thurmond ar y papur ar bleidlais hanesyddol o uchel gan bleidleiswyr duon. Ar yr un pryd fe leddfodd ymosodiadau Wallace ar Truman o'r chwith ofnau pleidleiswyr oedd yn bryderus na fyddai'r Democrat yn sefyll yn gadarn yn erbyn Comiwnyddiaeth.

Mewn geiriau eraill roedd ymgyrchoedd Thurmond a Wallace yn gwneud i Truman ymddangos yn wladweinydd cymedrol a doeth.

Pam codi hwn nawr? Wel mae'r hanes yn cynnig ateb posib, rwy'n meddwl, i gwestiwn sy'n cael ei gofyn gan lawer ar hyn o bryd sef hwn. Pam ar y ddaear y gwnaeth Ed Miliband gytuno i gymryd rhan yn nadl y gwrthbleidiau wythnos nesaf - y ddadl lle fydd David Cameron a Nick Clegg yn absennol?

Dyma oedd gan un Aelod Seneddol Llafur dienw i ddweud wrth y Telegraph ynghylch y penderfyniad hwnnw.

"It is absolutely absurd. The Labour Party is meant to be the main opposition - what is it doing appearing alongside these parties? He must be mad. He can't win it.He's got to be serious and rational, but the public will hear irrational and likeable policies. It's a no-win situation. He's been badly advised. It's not the wisest of moves, but we're stuck with it."

Rwy'n deall y ddadl honno ac i raddau mae penderfyniad Ed Miliband i ymddangos gydag arweinwyr yr SNP, Plaid Cymru, y Gwyrddion ac Ukip yn un rhyfedd. Ond mae'n ddigon posib y bydd y ddadl yn cyfleu Miliband fel dyn cymedrol, rhesymol sy'n fodlon trafod a dadlau gyda phawb. Truman Show go iawn.