Be nesa wedi'r pleidleisio?

blwch pleidleisio

Waeth beth mae David Cameron ac Ed Miliband am i chi feddwl, dyw'r bleidlais ar 7 Mai ddim o reidrwydd yn ddewis syml rhwng y Ceidwadwyr a Llafur.

Mae'n wir mai un ohonyn nhw fydd y prif weinidog nesaf, ond dyw'r etholiad hwn ddim yn râs rhwng dwy blaid yn unig - mae ein gwleidyddiaeth llawer yn fwy cymhleth na hynny erbyn hyn.

Mae'n debyg iawn na fydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif, ac felly dim ond y cam cyntaf yn y broses o benderfynu pwy fydd yn llywodraethu fydd yr etholiad ei hun.

Yn wahanol i 2010, pan nad oedd unrhyw wleidydd yn fodlon ystyried y posibilrwydd o glymblaid, does dim osgoi'r ffaith y tro hwn.

Ond mae'n bur debyg na fydd hi mor syml â chytundeb rhwng dwy blaid fel yn 2010. Gyda'r tebygolrwydd y bydd hon yn etholiad agos iawn, efallai y bydd angen cytundeb rhwng tri neu fwy o bleidiau er mwyn cyrraedd y 326 o seddi sydd ei angen ar gyfer mwyafrif.

Felly beth yw'r opsiynau posib?

Clymblaid

Mewn clymblaid, mae dwy blaid neu fwy yn dod i gytundeb ffurfiol ar raglen lywodraethol. Mae yna gynrychiolwyr o bob plaid yn y cabinet, a phawb yn cytuno i bleidleisio fel un ar y rhan fwyaf o bolisïau'r llywodraeth.

Dyma'r opsiwn mwyaf sefydlog, ac mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dangos dros y pum mlynedd ddiwethaf ei fod yn gweithio.

Ond fe all y mathemateg wneud clymblaid yn anoddach y tro hwn. Clymblaid arall gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai'r opsiwn hawsaf a mwyaf naturiol i'r Ceidwadwyr a'r blaid Lafur, ond mae'n annhebyg y bydd ganddyn nhw ddigon o seddi y tro hwn.

A hyd yn oed petai'r arweinyddion yn fodlon clymbleidio, mae'n fwy na phosib y byddai'r aelodau yn gwrthod.

Cytundeb Hyder a Chyllid

Opsiwn llai ffurfiol, ond un sydd hefyd yn llai sefydlog yw cytundeb hyder a chyllid.

Cytundeb ble mae plaid neu bleidiau llai yn cytuno i gefnogi'r blaid fwyaf mewn pleidleisiau pwysig yn y Senedd, er enghraifft ar y gyllideb neu mewn pleidlais o ddiffyg hyder; a hynny yn gyfnewid am rywbeth maen nhw wir eisiau.

'Dy nhw ddim yn cael cynnig swyddi cabinet, ond maen nhw wedyn yn rhydd i ddewis a dethol pa bolisïau eraill i'w cefnogi, felly yn cadw eu hunaniaeth mewn modd sy'n anodd i blaid lai mewn clymblaid.

Mae'r blaid Lafur wedi dweud na fydde nhw'n ffurfio clymblaid gyda'r SNP, ond mae cytundeb mwy anffurfiol fel hyn yn sicr yn bosib - efallai yn cynnwys Plaid Cymru a'r Blaid Werdd hefyd.

Mae'n bosib gweld cytundeb o'r fath hefyd rhwng y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, y DUP ac UKIP.

Y broblem gyda chytundeb mwy anffurfiol fel hyn yw ei fod yn fwy ansefydlog ac yn anoddach i'w gynnal am gyfnod hir gan fod dal angen gweithio'n galed i ennyn cefnogaeth ar gyfer pob pleidlais arall. Sy'n golygu bod pasio unrhyw beth dadleuol yn anodd dros ben - a gyda mwy o doriadau eto i ddod dan y Ceidwadwyr a'r blaid Lafur, fe fydd yna ddigon o'r penderfyniadau anodd hynny i ddod yn y Senedd nesaf.

Llywodraeth leiafrifol

Dyma fyddai nifer o aelodau cyffredin y Ceidwadwyr a'r blaid Lafur yn ei ffafrio, gan na fydden nhw wedi'i chlymu i'r un blaid arall.

Ond dyw o'n bell o fod yn sefyllfa ddelfrydol - byddai bywyd mewn llywodraeth o'r fath yn frwydr gyson, nid yn unig gyda phleidiau eraill ond hefyd gyda'ch aelodau eich hunain, achos does byth sicrwydd y bydd eich polisïau yn cael eu gwireddu.

Y realiti yw bod rhaid i unrhyw lywodraeth leiafrifol ddod i gytundeb gyda phleidiau eraill er mwyn pasio deddfwriaeth, hyd yn oed os ydi pob un aelod o'ch plaid yn pleidleisio'n ffyddlon (a dyw hynny ddim yn digwydd bob tro). Ac wrth gwrs byddai'n rhaid talu pris am hynny, felly dyw plaid leiafrifol byth mor annibynnol ac y byddai rhai yn ei ddychmygu.

A heb unrhyw gytundeb ar gyllideb neu bleidleisiau o ddiffyg hyder, mae llywodraeth leiafrifol yn un bregus iawn.

Etholiad arall?

A beth os yw'r blaid fwyaf yn ei chael hi'n anodd ffurfio llywodraeth sefydlog, ydi'n bosib y gwelwn ni ail etholiad yn fuan, fel y digwyddodd yn 1966 neu 1974?

Wel fe fyddai'n llawer anoddach nawr, gan fod y ddeddf termau seneddol penodol yn ein clymu ni, mewn deddfwriaeth, i dymor seneddol o bum mlynedd. A byddai angen cytundeb 2/3 o'r senedd i newid hynny, allai fod yn anodd iawn, er nid yn amhosib. Ond fyddai'r etholwyr yn gwerthfawrogi hynny? Dwi'n amau'n fawr.

Hyd yn oed petai yna etholiad arall, mae'n anodd gweld sut y byddai'r canlyniad yn llawer gwahanol. Felly mae'r pwysau ar ba bynnag blaid sy'n ennill y nifer fwyaf o seddi i ddod i ryw fath o gytundeb yn y dyddiau wedi 7 Mai.