Angen gwella gofal diwedd oes, medd elusen Marie Curie

Gofal lliniarol

Mae adroddiad newydd gan elusen Marie Curie yn galw am newidiadau sylfaenol yn y gofal lliniarol sydd ar gael i bobl sy'n byw gydag afiechydon terfynol, ac sydd yn agosáu at ddiwedd eu bywydau.

Dywed yr adroddiad fod dros 100,000 o bobl y flwyddyn ym Mhrydain yn methu derbyn gofal lliniarol pwrpasol yn ystod eu dyddiau olaf, a bod llai o ofal lliniarol ar gael i gleifion sydd ddim yn dioddef o ganser, ond yn byw gydag afiechydon terfynol eraill.

Yn ôl Marie Curie, fe allai cynnig gwell gofal lliniarol i bobl olygu arbedion o £37m i'r gwasanaeth iechyd, wrth gwtogi ar nifer y bobl sy'n gorfod mynd i ysbytai heb fod angen. Dywed yr elusen fod bron i chwarter y dyddiau pan mae gwelyau mewn defnydd yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o ganlyniad i bobl sydd ym mlwyddyn olaf eu bywyd.

Mae tua 32,000 o bobl yn marw yng Nghymru yn flynyddol, gyda 20,000 o'r bobl hyn dros 75 oed. Daw'r mwyafrif o'r marwolaethau yn dilyn cyfnod o waeledd difrifol fel afiechyd y galon, canser, stroc, afiechydon niwrolegol neu ddemensia.

Gwaith ymchwil

Daw'r adroddiad, "Changing the Conversation", yn dilyn gwaith ymchwil ar y cyd rhwng Marie Curie a'r London School of Economics. Cafodd 500 o weithwyr iechyd eu holi mewn arolwg, ac roedd llawer o'r farn fod diffyg cydweithio rhwng timau gofal, diffyg ariannu gwasanaethau, a staff heb ddigon o amser i gynnig gofal, i gyd yn rhwystrau i ofal lliniarol pwrpasol.

Dywedodd 53% o'r rhai oedd wedi ymateb i arolwg Marie Curie fod anghenion cleifion yn cael eu diwallu ar y cyfan, ond dim ond 15% oedd yn credu fod hyn yn wir am bobl oedd yn defnyddio gofal cymdeithasol allan o oriau, neu wasanaethau gofal mewn unedau brys.

Dywedodd Dr Jane Collins, prif weithredwraig Marie Curie: "Nid yw'r canfyddiadau hyn yn cynnig darlun da i bobl sydd yn byw gydag afiechydon terfynol yn y DU heddiw.

"Nid oes amheuaeth nad yw llawer o bobl yn derbyn y gofal a'r gefnogaeth maen nhw eu hangen, ac mae pawb, o weithwyr iechyd proffesiynol, ymchwiliwyr, gwneuthurwyr polisi a'r rhai sydd yn cael eu heffeithio gan waeledd terfynol yn deall hyn. Os yw'r system ofal bresennol yn methu ar hyn o bryd, sut fydd yn ymdopi gyda'r gofynion sydd i ddod?

'Sgwrs genedlaethol'

"Mae ein hadroddiad newydd yn galw am sgwrs genedlaethol am y math o ofal a chefnogaeth y dylai pobl gydag afiechydon terfynol, a'u teuluoedd, ei dderbyn nawr ac yn y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu byw yn dda mor hir â phosib yn y lle maen nhw'n ei ddymuno - fel arfer yn eu cartrefi eu hunain".

Ychwanegodd Dr Collins: "Mae pawb yn y DU sydd yn byw gydag afiechydon terfynol yn haeddu'r gofal a'r gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw. Mae angen am fodelau amgen o ofal ac adeiladu capasiti - yn enwwedig o fewn cymunedau - er mwyn ateb yr anghydraddoldeb sy'n bodoli yn y system bresennol ac i gwrdd â'r galw yn y blynyddoedd i ddod. Os na wnawn ni hyn yna fe fyddwn yn parhau i adael y bobl fwyaf bregus i lawr mewn cyfnod pan maen nhw ein hangen fwyaf."

Straeon perthnasol