Ymgeisydd Plaid Cymru'n amddiffyn sylwadau am 'hiliaeth'

Mike Parker
Image caption Mae Mike Parker yn cydnabod na fyddai'n defnyddio geirfa o'r fath y dyddiau hyn

Mae ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi amddiffyn sylwadau wnaeth o yn cymharu rhai mewnfudwyr o Loegr gyda'r Natsïaid - ond mae'n cydnabod na fyddai'n defnyddio geirfa o'r fath i ddisgrifio'r sefyllfa heddiw.

Dywedodd Mike Parker ei fod yn "ieuengach ac yn fwy blin" pan ysgrifennodd yr erthygl yn 2001.

Yng nghylchgrawn Planet ysgrifennodd fod rhannau o Gymru "yn fersiwn Brydeinig o'r mynyddoedd Americanaidd, sy'n gartre' i lond llaw o bobl baranoid, pobl wallgo gyda gynnau, yn chwilio am yr Ateb Terfynol, a rhai sy'n hollol yn erbyn y llywodraeth."

Ar y pryd ychwanegodd fod nifer o fewnfudwyr yn hiliol.

'Fy nigaloni a fy ngwylltio'

Mewn datganiad ar wefan Facebook ddydd Mercher dywedodd Mr Parker ei fod, fel awdur teithio, yn "ceisio deall mwy am yr hyn oedd yn denu pobl i'r Gymru wledig".

"Ro'n i'n gwybod beth oedd fy rhesymau i," meddai, "mae'n rhan o'r byd sydd wastad wedi fy swyno i. Wrth symud yma, ro'n i'n teimlo'n gartrefol yn syth diolch i'r gymuned oddefgar a thrugarog yma.

"Fe ddaeth yn sioc i mi i ddeall trwy nifer o'r sgyrsiau gefais yn y dyddiau cynnar hynny, fod pobl yn dweud yn gwbl agored wrthyf eu bod wedi symud yma i osgoi cymunedau aml-ethnig mewn ardaloedd mwy trefol.

"Roedd y math yma o eithafiaeth yn fy nigaloni ac yn fy ngwylltio. Wnes i erioed ddweud nac awgrymu fod y mwyafrif o bobl oedd wedi symud i ardaloedd gwledig yn credu hyn, ond doedd y niferoedd ddim yn dila a dydw i erioed wedi osgoi herio gwahaniaethu waeth pa ffurf mae'n cymryd.

"Roedd fy ngwylltineb gyda rhai o'r safbwyntiau hiliol hyn wedi arwain at iaith gref na fyddwn ni'n defnyddio nawr - ond rwy'n parhau i gredu na ddylwn ni anwybyddu na derbyn hiliaeth, ond ei herio a'i thaclo."

Llafur

Y blaid Lafur yw'r blaid gynta' i ymateb a dywedodd eu hymgeisydd yng Ngheredigion, Huw Thomas: "Mae'n anhygoel fod Mr Parker wedi dewis amddiffyn ei sylwadau yn hytrach na'u tynnu'n ôl ac ymddiheuro. 'Dyw rhywun sy'n lleisio safbwyntiau fel hyn yn amlwg ddim yn addas i gynrychioli Ceredigion yn fy marn i. Gyda deuddydd yn weddill cyn i'r enwebiadau gau, fe ddylai Plaid gael gwared ar Mike Parker fel eu hymgeisydd yng Ngheredigion."

Ceidwadwyr

Yn ôl Henrietta Hensher, ymgeisydd y blaid Geidwadol yng Ngheredigion: "Roeddwn i'n amlwg wedi synnu i glywed am y sylwadau, fel pawb arall. Mae hi'n siomedig iawn clywed y fath sylwadau yn y cyfryngau, boed 14 mlynedd yn ôl neu bedwar munud yn ôl. Beth sy'n achosi pryder i ni yw bod llawer o bobl Saesneg yn symud i Gymru, ac mae ymateb Plaid hyd yn hyn yn ymddangos yn gefnogol i'w sylwadau, sy'n awgrymu mai dyma farn ganolog y blaid."

Democratiaid Rhyddfrydol

Dywedodd Peter Black, o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Mae angen i Leanne Wood ddangos rhywfaint o arweiniad a mynnu ymddiheuriad cyhoeddus llawn gan ei hymgeisydd. Naill ai mae o'n tynnu'r sylwadau hyn yn ôl neu mae angen iddi hi esbonio a ydy o'n cynrychioli polisi Plaid Cymru. Ddylai ei sylwadau dadleuol ddim cael eu hanwybyddu."

UKIP

Yn ôl ymgeisydd UKIP yng Ngheredigion, Gethin James: "Petai ymgeisydd UKIP wedi ysgrifennu erthygl yn y modd bychanus hwn, er ei fod beth amser yn ôl, yna byddai yna gais iddyn nhw ystyried eu sefyllfa fel ymgeisydd seneddol."

Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi dweud ei bod yn "bwysig cydweithio i ddod â chymunedau ynghyd, gan oresgyn y bobl hynny fyddai'n ceisio gosod cymuned yn erbyn cymuned".

"Mae Plaid Cymru wastad wedi gweithio yn erbyn y grymoedd ymrannol hynny ac rydyn ni'n falch o'n record o ran hynny."

Yr ymgeiswyr sydd wedi'u cadarnhau yn barod yng Ngheredigion yw: Henrietta Hensher (Ceidwadwyr), Jack Huggins (Clymblaid Undebau Llafur a Sosialwyr), Gethin James (UKIP), Mike Parker (Plaid Cymru), Huw Thomas (Llafur), Daniel Thompson (Y Blaid Werdd), a Mark Williams (Democratiaid Rhyddfrydol).