Ed Balls: Gweledigaeth Llafur ar yr economi

Ed Balls
Image caption Mae Ed Balls yn ymgyrchu dros Lafur yng Nghymru ddydd Mercher

Bydd Canghellor yr wrthblaid Ed Balls yn amlinellu gweledigaeth Llafur ar gyfer yr economi yn ystod ymweliad â Sir Gaerfyrddin, wrth i'r ymgyrchu barhau ar draws Cymru ddydd Mercher.

Ar gyfer y Ceidwadwyr, bydd y Gweinidog Busnes Matthew Hancock yn ymweld â rhai o seddi targed y blaid.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn lansio gwobr gwerth £100m i geisio lleihau llygredd a datblygu ceir mwy gwyrdd.

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru'n galw am ddatganoli grymoedd dros brosiectau ynni mawr i lywodraeth Cymru.