'Bedydd tân' i ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion

Mike Parker
Image caption Mae Mike Parker yn dweud nad yw'n difaru'r sylwadau a wnaeth yn 2001

Mae ymgeisydd Plaid Cymru, sydd yng nghanol ffrae am sylwadau am 'hiliaeth', yn dweud ei fod wedi cael "bedydd tân."

Mae'r ddadl wedi codi yn sgil erthygl yr oedd Mike Parker wedi ei hysgrifennu yn 2001, yn honni fod rhannau o Gymru yn gartre' i "bobl wallgo gyda gynnau, yn chwilio am yr Ateb Terfynol."

Dywedodd na fyddai'n defnyddio geirfa o'r fath heddiw, gan ei fod "yn gallach gobeithio", ond mynnodd nad oedd angen iddo ymddiheuro.

Mewn hystings yn y Borth nos Fercher, dywedodd Mr Parker fod y ffrae wedi bod yn "ddiwrnod a hanner" iddo, cyn esbonio ei sylwadau yn 2001.

'Ddim yn difaru'

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr Parker: "Roedd hi'n neges am hiliaeth. Hiliaeth yw pla mwya'r byd sydd ohoni.

"Mae'n rhywbeth ofnadwy sy'n ein rhannu, ac mae wedi gwaethygu ers i mi 'sgwennu'r erthygl.

"Dydw i ddim yn difaru'r peth. Fyddwn ni ddim yn defnyddio'r geiriau hynny nawr, nid am fy mod yn sefyll yn yr etholiad ond am fy mod i 15 mlynedd yn hŷn, wedi britho ac yn gallach gobeithio.

"Roeddwn i'n flin ac yn angerddol, yn erbyn hiliaeth, ac o blaid y gymuned wych, drugarog ac oddefgar yr oeddwn wedi symud iddi yng nghanolbarth Cymru.

"Roedd y ddau beth yma i weld yn gwbl groes i'w gilydd, ac roeddwn i eisiau ceisio mynegi hynny a do, fe wnes i ei fynegi mewn termau eitha' cryf ond dydw i ddim yn difaru hynny.

Pan ofynwyd iddo a oedd yn credu bod 'na angen ymddiheuro, dywedodd: "Does dim byd i ymddiheuro yn ei gylch."

Image copyright Planet magazine
Image caption Roedd Mike Parker wedi honni yn 2001 fod rhai pobl yn symud o Loegr i gefn gwlad Cymru am eu bod yn hiliol

'Nonsens llwyr'

Dywedodd cyn arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, fod galwadau ar i Mr Parker dynnu'n ôl fel ymgeisydd yng Ngheredigion yn "nonsens llwyr".

"'Da ni'n sôn am sylwadau wnaeth o 15 mlynedd yn ôl ac mae'r person sydd wedi'u 'sgwennu nhw'n dweud bod yr iaith yn flodeuog ac na fyddai'n dewis defnyddio'r un geiriau heddiw," meddai wrth raglen y Post Cynta' ar BBC Radio Cymru ddydd Iau.

Ychwanegodd Mr Llwyd fod Mr Parke ryn cyfeirio at "gyfran fechan iawn, iawn o bobl a symudodd i Gymru gyda safbwyntiau hiliol".

Roedd y darn wedi cael ei ysgrifennu ar adeg pan yr oedd plaid y BNP yn tyfu ac yn cynnal ralïau yng nghanolbarth Cymru, meddai.

Ymateb y pleidiau

Dydd Mercher, dywedodd Huw Thomas, ymgeisydd Llafur yng Ngheredigion "fod rhywun sy'n lleisio safbwyntiau fel hyn yn amlwg ddim yn addas i gynrychioli Ceredigion".

Yn ôl Henrietta Hensher, ymgeisydd y blaid Geidwadol ei bod yn "siomedig iawn clywed y fath sylwadau yn y cyfryngau, boed 14 mlynedd yn ôl neu bedwar munud yn ôl".

Dywedodd Peter Black, o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, "na ddylai ei sylwadau dadleuol gael eu hanwybyddu".

Yn ôl ymgeisydd UKIP, Gethin James: "Petai ymgeisydd UKIP wedi ysgrifennu erthygl yn y modd bychanus hwn, er ei fod beth amser yn ôl, yna byddai yna gais iddyn nhw ystyried eu sefyllfa fel ymgeisydd seneddol."

Yr ymgeiswyr sydd wedi'u cadarnhau yn barod yng Ngheredigion yw: Henrietta Hensher (Ceidwadwyr), Jack Huggins (Clymblaid Undebau Llafur a Sosialwyr), Gethin James (UKIP), Mike Parker (Plaid Cymru), Huw Thomas (Llafur), Daniel Thompson (Y Blaid Werdd), a Mark Williams (Democratiaid Rhyddfrydol).