Senedd grog: Cyfle i'r pleidiau llai

O'r chwith i'r dde: Leanne Wood (Plaid Cymru), Nicola Sturgeon (SNP), Natalie Bennet (Gwyrddion) Image copyright Getty Images
Image caption Mae Plaid Cymru, yr SNP a'r Blaid Werdd wedi dod i gytundeb i weithio gyda'i gilydd wedi'r etholiad i sicrhau'r dylanwad mwyaf posib

Gyda senedd grog yn edrych yn hynod debygol wedi'r etholiad ar 7 Mai, mae mwy o sylw yn cael ei roi'r tro hwn i'r pleidiau llai, a'r dylanwad posib fydd ganddyn nhw ar bwy fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf.

Os na fydd un blaid yn ennill y 326 sedd sydd ei angen ar gyfer mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin, fe fydd yn rhaid i'r blaid fwyaf - boed hynny yn Geidwadwyr neu'r blaid Lafur - edrych am gymorth y pleidiau llai.

A chyda'r disgwyl y bydd 'na gwymp sylweddol yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r SNP, Plaid Cymru a'r Blaid Werdd yn gobeithio mai nhw fydd â'r grym a'r dylanwad y tro hwn.

Yn sicr fe all hynny fod yn wir am yr SNP, gyda rhai arolygon barn yn awgrymu y gallan nhw gipio hyd at 50 allan o 59 o seddi'r Alban. Dwi'n amau na fydd y ffigwr cweit mor fawr â hynny, ond does dim dwywaith y byddan nhw'n cynyddu yn sylweddol ar y chwe sedd sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, ac mai nhw fydd y drydedd blaid fwyaf yn y Senedd - a chyda hynny daw grym sylweddol.

Ond yn wahanol i'r SNP, ar noson hynod o dda, y gorau y gall Plaid Cymru obeithio amdano yw dyblu nifer eu haelodau seneddol o dri i chwech, er mae'n llawer mwy tebygol y gwelwn ni nhw'n dychwelyd heb unrhyw gynnydd mewn seddi. Ac er gwaethaf yr ymchwydd yng nghefnogaeth y Blaid Werdd yn ddiweddar, mae hynny'n annhebygol o arwain at lawer mwy na'r un sedd sydd ganddyn nhw nawr yn Lloegr (dy'n nhw ddim yn mynd i gipio sedd yng Nghymru).

Felly faint o ddylanwad fydd ganddyn nhw mewn gwirionedd?

Wel ar eu pen eu hunain, prin iawn fyddai eu dylanwad, ond mewn undeb mae nerth - ac mae Plaid Cymru, yr SNP a'r Blaid Werdd wedi dod i gytundeb i weithio gyda'i gilydd wedi'r etholiad i sicrhau'r dylanwad mwyaf posib.

Yn ôl Dyfan Powel, o Brifysgol Aberystwyth, fe allan nhw, gyda'i gilydd, ddod â digon o aelodau i'r senedd i "gefnogi neu ddymchwel llywodraeth".

"Mae'n dangos cryfder sefyllfa Plaid Cymru mewn senedd grog, er taw dim ond tair sedd sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, ac efallai y byddan nhw'n cael un neu ddwy arall, maen nhw'n dal yn gallu bod yn eithaf cryf gan fod ganddyn nhw bartneriaid yn yr SNP sy'n gallu dylanwadu.

"Achos eu bod nhw yn y pact hyn maen nhw dipyn yn gryfach o ran eu sefyllfa nhw".

Mae'r tair plaid wedi dweud na fyddan nhw'n cefnogi llywodraeth Geidwadol, ond yn barod i ystyried cytundeb anffurfiol gyda'r blaid Lafur, gan edrych ar bob polisi yn eu tro.

Image caption Mae'n edrych yn gynyddol annhebygol y bydd un blaid yn sicrhau mwyafrif ar 7 Mai

'Cyfle digynsail i Gymru'

Ac yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, byddai senedd grog yn "cynnig cyfle digynsail i Gymru".

"Mae mwy a mwy o bobl yn cael eu perswadio gan y pleidiau llai. Dyna pam mae yna bob posibilrwydd o senedd grog wedi Mai, sy'n cynnig cyfle gwych i Gymru."

"Os fydd Plaid Cymru yn dal cydbwysedd grym, byddwn yn ailgydbwyso grym a chyfoeth ledled y DU. I ffwrdd o'r sector ariannol yn Ninas Llundain ac i'r cymunedau hynny sydd angen buddsoddiad, fel rhai yng Nghymru.

"Byddwn yn brwydro dros Gymru bob dydd ac yn sicrhau cydraddoldeb gyda chenhedloedd eraill y DU i'n gwlad."

Yn sicr mae gan y tair plaid ddigon yn gyffredin, maen nhw i gyd am weld diwedd ar y toriadau, ac eisiau cael gwared ar daflegrau niwclear Trident. Yr unig faen tramgwydd amlwg yw'r gwahaniaeth barn rhwng Plaid Cymru a'r SNP ar fformiwla Barnett - y fformiwla ariannol sy'n llawer mwy hael i'r Alban nag i Gymru.

Ond efallai mai'r rhwystr mwyaf fydd aelodau'r blaid Lafur eu hunain. Ac yn ôl Dyfan Powel, fydd hi ddim yn hawdd i'r blaid Lafur werthu cytundeb o'r fath i'w aelodau gan y byddai dod i gytundeb efo'r SNP "fel taro dêl gyda'r diafol i'r bobl hyn".

"Os yw'r blaid Lafur am lywodraethu, yna mae'n rhaid iddyn nhw daro rhyw fath o fargen gyda rhywun,

"Y rhwystr rwy'n credu yw'r agwedd wrth-Geltaidd gan y pleidiau yn San Steffan.

"Y broblem fwyaf yw meddylfryd y blaid Lafur, sut maen nhw'n delio gyda'r ffaith eu bod nhw nawr yn gorfod taro bargen efo plaid sydd wedi eu chwalu nhw'n rhacs yn Yr Alban.

Yn y pen draw fe fydd popeth yn ddibynnol ar y fathemateg, a faint o seddi y bydd y blaid fwyaf eu hangen er mwyn cyrraedd y 326 sedd angenrheidiol yna i lywodraethu.