Democratiaid Rhyddfrydol: 'Helpwch rhentwyr trwy fenthyg'

Tai Image copyright Thinkstock
Image caption Byddai'r cynllun yn galluogi i bobl fenthyg hyd at £1,500 ar gyfer blaendal ar gartref sy'n cael ei rentu

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud y dylai pobl rhwng 18 a 30 fod yn gallu benthyg arian gan y llywodraeth ar gyfer blaendal ar gartref sy'n cael ei rhentu.

I fod yn gymwys, byddai'n rhaid i denantiaid fod mewn gwaith, ond ni allan nhw fod yn berchen ar gartref nac yn chwilio am denantiaeth mewn tŷ cyngor.

Dan gynllun 'Cymorth i Rhentu' y blaid, byddai pobl yn gallu benthyg hyd at £1,500 fyddai'n cael ei dalu yn ôl o fewn dwy flynedd.

Dywedodd y blaid y byddai'n cyflwyno'r polisi yn Lloegr os bydd mewn pŵer yn San Steffan ar ôl 7 Mai, ac y byddai'n sicrhau bod arian ar gael i Lywodraeth Cymru ei gyflwyno hefyd.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am gynnyddu'r nifer o dai sy'n cael eu hadeiladu fel rhan o'u 'Gweledigaeth ar gyfer Cartrefi Cymru'.

Dywed Llafur eu bod eisiau newid y gyfraith sy'n gysylltiedig â rhentu i roi mwy o ddiogelwch i denantiaid.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi rheoli rhent i helpu tenantiaid.

Dywed UKIP y byddai'n rhoi blaenoriaeth i ddarparu tai cyngor ar gyfer pobl sydd â rhieni gafodd eu geni yn lleol.