Ymgeisydd Llafur yn ymddiheuro wedi sylw 'Tippex'

huw Thomas

Mae ymgeisydd Seneddol Llafur wedi ymddiheuro am sylwadau a wnaeth pan yn y coleg yn awgrymu y gallai "Tippex" gael ei daflu ar geir â baneri Lloegr.

Yn 2006 ysgrifennodd Huw Thomas, sy'n sefyll yng Ngheredigion, ar fforwm bod y baneri yn rhai "twpsyn" neu "rywun hiliol".

Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd: "Rydw i'n ymddiheuro am y sylwadau yma, gafodd eu gwneud pan oeddwn yn fyfyriwr ifanc. Nid dyma yw fy marn erbyn hyn ac rydw i'n difaru ysgrifennu hyn ar y we.

"Bydd pob ymgeisydd yn yr etholiad yma wedi bod ar siwrne wleidyddol. Bydd y rhan fwyaf wedi dweud neu feddwl pethau pan oedden nhw'n ifanc yn y brifysgol, coleg neu ysgol y maen nhw'n eu difaru nawr. Yn sicr dyna fy achos.

"Mae pobl Ceredigion yn haeddu AS fydd yn sefyll i fyny drostyn nhw ac yn brwydro dros ein cymunedau. Maen nhw hefyd yn haeddu AS fydd yn cyfaddef pan maen nhw'n anghywir."

Mewnfudwyr

Daw'r ffrae ar ôl i ymgeisydd Plaid Cymru yn y sedd wynebu beirniadaeth wedi honiadau ei fod wedi cymharu rhai mewnfudwyr sy'n byw yng Nghymru wledig gyda'r Natsïaid.

Yn 2001 ysgrifennodd Mike Parker fod "llawer o fewnfudwyr Seisnig yng Nghymru wledig yn hollol hiliol", a dywedodd bod rhai yn "chwilio am yr Ateb Terfynol".

Ymddiheurodd am ddefnyddio'r iaith ond awgrymodd mewn cyfweliad gyda'r BBC bod hiliaeth yng Nghymru wedi gwaethygu yn ddiweddar.

Yn ystod Cwpan y Byd 2006 dywedodd Mr Thomas: "Fi'n cytuno ei fod e'n hollol gyfoglyd gymaint o faneri Lloegr sydd i'w gweld o gwmpas Cymru. Mae e wir yn dangos y gradd mae ein cymdeithas ni wedi ei infiltratio gan fewnfudwyr sydd ddim yn barod i integreiddio."

Ychwanegodd: "Fe ges i'r cyfle, pan ges i gynnig banner Lloegr am hanner pris yn WHSmiths Oxford, i gael ateb gyda'r frawddeg 'Since I am neither a simpleton nor a casual racist I must decline your offer.'"

'Tynnu sylw'

Wrth ymateb, dywedodd Mark Williams ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'r mynd a dod yma yn tynnu sylw o'r materion pwysig sydd yn y fantol yn yr etholiad yma.

"Mae angen i bobl Ceredigion benderfynu pwy sydd â'r cryfder i fod yn llais iddyn nhw yn San Steffan. Bob dydd rydw i'n cnocio ar ddrysau ac yn trafod y materion sy'n bwysig i bobl."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru Ceredigion bod "ffocws Mike Parker a Phlaid Cymru ar siarad gyda phobl yng Ngheredigion".

"Ein hargraff ni yw bod gan bobl ddim diddordeb mewn ymosodiadau personol rhwng gwleidyddion. Ry'n ni eisiau son am y pynciau go iawn i Geredigion, a chynnig dewis amgen i doriadau trychinebus y pum mlynedd ddiwetha', fel buddsoddi mewn trafnidiaeth a band-llydan, gwarchod ein gwasanaeth iechyd a chefnogi busnesau bach."

Dywedodd ymgeisydd lleol UKIP Gethin James: "Dwi'n credu, os unrhyw beth, bod sylwadau Huw yn waeth na rhai Mike Parker, am ei fod yn annog pobl i achosi difrod troseddol i geir pobl, a dyw hynny'n bendant ddim yn rhywbeth y dylai rhywun fod yn gwneud."

Yn ôl Henrietta Hensher, ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer yr etholaeth, mae pobl leol wedi cael eu gadael i lawr "gan y cenedlaetholwyr Cymreig a nawr gan eu hymgeisydd Llafur".

"Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn siarad ar ran pawb yng Ngheredigion yn yr etholiad yma," meddai.

Mae rhestr llawn o'r ymgeiswyr i'w gweld yma.

Straeon perthnasol