Cyflwyno rhwystrau diogelwch ar ffordd yn Abertawe

Ffordd y Brenin Image copyright Google
Image caption Fe fydd y rhwystrau yn cael eu codi ar Ffordd y Brenin fore Sul

Mae rhwystrau diogelwch am gael eu cyflwyno ar Ffordd y Brenin yn Abertawe yn dilyn marwolaeth heddwas.

Cafodd Sarjant Louise Lucas, 41 oed, ei tharo gan fws ar y ffordd ar 31 Mawrth.

Fe gafodd hi ei hedfan i'r ysbyty ond bu farw'n ddiweddarach. Cafodd ei merch 8 oed, Olivia, ei hanafu yn y digwyddiad.

Fe fydd y rhwystrau 1.2m o uchder yn cael eu codi fore Sul, ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei orffen o fewn chwe awr.

Daw'r newyddion yn dilyn galwadau ar gyfer "gweithredu brys" gan grwner yn ymchwilio i'r farwolaeth.

Dywedodd grwner Abertawe Colin Phillips bod gan y ffordd "broblem ddifrifol gyda'i dyluniad", sydd yn "rhaid cael ei addasu" gan gyngor y ddinas.