Gwrthdaro ar iechyd wrth i ymgyrchu barhau

Ysbyty Image copyright Science Photo Library

Mae'r blaid Lafur a'r Ceidwadwyr wedi gwrthdaro dros y Gwasanaeth Iechyd wrth i'r ymgyrchu barhau ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Llafur bod polisi iechyd - sydd wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru - "yn llinell sydd yn gwahanu Llafur a'r Ceidwadwyr".

Mae'r blaid yn dweud, pe bai'n ennill yr etholiad, y byddai'n defnyddio enillion treth ar dai drud ledled y DU i dalu am 1,000 o staff ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi dweud mai Cymru yw'r unig ran o'r DU ble mae gwariant ar iechyd wedi cael ei dorri.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Jeremy Hunt: "Does gan Ed Milliband ddim cynlluniau i dyfu ein heconomi - dyna pam y bydd yn rhoi dyfodol y Gwasanaeth Iechyd yn y fantol, fel mae'r Blaid Lafur wedi ei wneud yng Nghymru."

Dywedodd Dirprwy Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Vaughan Gething: "Mae'r GIG wir yn wahanfa rhwng Llafur a'r Torïaid mis Mai yma.

"Gyda Llafur rydych chi'n cael nawdd ychwanegol, mwy o staff ac addewid na wnawn ni fyth wneud ein gwasanaeth iechyd yn breifat.

"Mae'r Torïaid yn cadw'n ddistaw am eu bod nhw wedi dechrau'r broses o'i gwneud hi'n breifat yn Lloegr ac maen nhw'n gwybod ei fod yn rhywbeth y gallan nhw ei ddefnyddio i demtio Nigel Farage mewn cytundeb ar ôl yr etholiad.

"Yn syml, fedrwch chi ddim bod â ffydd yn y Torïaid gyda'r GIG."

Pwnc amlwg

Er ei fod yn fater sydd wedi ei ddatganoli, mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn bwnc amlwg yn yr ymgyrch etholiadol hyd yn hyn. Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Stephen Crabb nad oedd diddordeb gan yr etholwyr os yw'r gwasanaeth yn cael ei redeg o Fae Caerdydd neu San Steffan.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Darren Millar: "Mae Ed Miliband wedi defnyddio Cymru fel esiampl o'r hyn y buasai'n ei wneud, ac mae'r ffigyrau yn siarad dros eu hunain - amseroedd aros yn waeth, y gwasanaeth ambiwlans yn perfformio'n waeth, a chyfradd uwch o farwolaethau mewn ysbytai.

"Y gwir yw mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid wleidyddol sydd yn gyson yn pleidleisio yn erbyn toriadau i wasanaeth iechyd Cymru. Ni hefyd yw'r unig blaid sy'n gaddo cyflwyno cronfa ar gyfer triniaeth canser yng Nghymru fel y gall gleifion gael yr un driniaeth sydd ar gael fan arall yn y DU."

"Niweidio" gwasanaethau cyhoeddus

Dywedodd Jenny Willott, ymgeisydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Canol Caerdydd: "Dyw'r Torïaid heb ddweud o ble bydda nhw'n darganfod yr arian ychwanegol sydd ei angen ar y Gwasanaeth Iechyd. Gyda'u cynlluniau i dorri a pharhau i dorri'r gyllideb am y pum mlynedd nesaf, bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd yr arian o ardaloedd eraill, gan niweidio ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr.

"Os na fydd, a tan y bydd y Ceidwadwyr yn dangos sut y maen nhw'n bwriadu talu am eu haddewidion, dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol fydd yr unig blaid i wneud ymrwymiadau gwirioneddol i ariannu'r Gwasanaeth Iechyd.

"Y Democratiaid Rhyddfrydol ydi'r unig blaid sydd wedi ei ymrwymo i roi £8bn sydd ei angen ar y Gwasanaeth Iechyd, sydd yn golygu miliynau yn ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac rydym wedi dangos sut y byddwn yn talu amdano."

"Pêl wleidyddol"

Wrth ymateb i'r ddadl am ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd, dywedodd Hywel Williams, ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon: "Mae pleidiau San Steffan wedi defnyddio iechyd fel pêl wleidyddol yn rhy hir.

"Dyw hyn yn gwneud dim i ysbryd y staff ymroddgar a'r cleifion sydd yn dibynnu ar y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.

"Mae diddordeb Plaid Cymru mewn darganfod atebion. Rydym wedi cyhoeddi cynlluniau manwl ar gyfer hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol yng Nghymru a thanlinellu cynlluniau i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i'r afael a'r broblem gynyddol o flocio gwelyau mewn ysbytai."