Pro12: Zebre 26 - 28 Scarlets

Scarlets

Llwyddodd Rhys Priestland i achub y Scarlets gyda chic olaf y gêm oddi cartref yn yr Eidal yn erbyn Zebre brynhawn Sadwrn, ac fe fydd ei ymdrechion yn hwb i obeithion y Scarlets o chwarae ar y lefel uchaf yn Ewrop y tymor nesaf.

Roedd y Cymro wedi methu un gic dyngedfenol yn ystod y gêm yn barod, ond llwyddodd i sicrhau buddugoliaeth yn yr eiliadau olaf.

Llwyddodd Scott Williams i sgorio dau gais ac fe gafodd James Davies gais arall i'r ymwelwyr, er bod ceisiadau gan George Biagi a Quintin Geldenhuys wedi golygu fod Zebre wedi cystadlu drwy gydol y gêm.