Grimsby 0 - 1 Wrecsam

Wrecsam

Cafodd Wrecsam fuddugoliaeth gampus oddi cartref yn erbyn Grimsby ddydd Sadwrn, gan roi ergyd i obeithion Grimsby o ennill dyrchafiad awtomatig y tymor nesaf.

Joe Clarke oedd yn gyfrifol am unig gôl y gêm, a hynny wedi 17 munud.

Bu bron i Grimsby ddod yn gyfartal yn yr eiliadau olaf gyda pheniad agos gan eilydd Grimsby, Jon-Paul Pittman, ond llwyddodd Wrecsam i frwydro i gadw'r triphwynt ac fe fydd eu rheolwr dros dro, Carl Darlington, yn fodlon iawn gyda'r canlyniad.