Ffilm Brenin Arthur yn Eryri

Nant Image copyright Geograph/Ian Greig
Image caption Bydd Nant Gwynant yn leoliad fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y ffilm

Bydd gogoniant Eryri yn chwarae rhan mewn ffilm newydd Hollywod.

Mae'r gwaith o ffilmio 'Knights of the Roundtable: King Arthur' yn dechrau yn yr ardal ddydd Llun ac fe fydd y ffilmio yn para am chwe diwrnod yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Yn serennu yn y ffilm fydd yr actorion Charlie Hunnam fydd yn chwarae rhan Brenin Arthur, a Jude Law fel cymeriad Vortigern, sef Gwrtheyrn.

Dywed y cwmni cynhyrchu Velocity Productions fod y ffilmio yn digwydd yn ardal Capel Curig, Nant Gwynant a Phen y Gwryd.

Image copyright Geograph/Keith Evans
Image caption Bydd ffilmio yn digwydd yn ardal Capel Curig hefyd
Image caption Jude Law fydd yn chwarae rhan Vortigern yn ffilm Guy Ritchie, ' Knights of the Roundtable: King Arthur'
Image copyright Geograph/Stephen Elwyn Roddick
Image caption Ardal arall fydd yn leoliad ffilmio ydi Pen y Gwryd